Blant Cymru, mae Anni ‘ma!
Hel antur a barddplanta
bob bore yw ei bwriad,
hel paned ledled y wlad,
a’i diléit yw ei dweud-hi
yn lôn o straeon di-ri
llawn darogan, llawn dreigiau,
llawn o wên, llawen awen iau
trwy eich help. Dewch! Trochwch hi
yn eich hwyl, dewch i’w holi
yn werin eich brenhines
am gymhariaeth ffraeth a ffres,
neu odl lawn o chwedlau.
Mae ‘na iaith, sef iaith mwynhau,
eich iaith chi a chwyth ei chwa
drwy Gymru; mae Anni ‘ma!
Aneirin Karadog