Bardd Plant Cymru
Cymru
Rwy'n byw yng ngwlad y ddraig,
Ac rwy'n siarad yr iaith Gymraeg.
Bara brith a chawl cennin
Sy'n fwyd digon da i frenin.
Ar ben y bryn mawr
Mae castell yn union fel cawr.
Ble roedd Myrddin y dewin
Yn hoffi dawnsio gwerin.
Mae copa'r Wyddfa i'w weld o bell,
A bydd cerdded y mynydd yn fy ngwneud yn well.
Rwy'n hoffi gwrando ar Duffy a Tom,
Mae nhw'n fy ngwneud i deimlo'n llon.
T. Llew Jones sy'n awdur o fri,
Mae ei lyfrau ef yn hwyl a sbri.
Joio yn y 'Steddfod yn yr haf,
Gan obeithio y cawn dywydd braf!
Dwi'n hoffi Pice ar y Ma'n
A chlywed y Cymry yn canu cân.
Mae Shane Williams yn enwog iawn,
Wrth gicio a rheseg - mae ganddo ddawn.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn llawn trysorau,
Dewch i ni ddarllen rhwng y cloriau.
Tywysog cadarn oedd Glyndwr,
Roedd pawb yn Lloegr yn ofn y gŵr.
Cenhinen bedr sy'n bwysig i mi,
A Dewi Sant - ein Nawddsant ni.
Y ddraig goch yn chwifio ar ein baner ni,
Canwn yr anthem, 'Hen Wlad fy Nhadau i mi'.
William Morgan sy'n arwr i mi,
Cyfieithodd y Beibl i'n hiaith fach ni.
Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn,
Mae'n hala ni i deimlo'n llawn.
Mae Cymru fach yn bwysig i ni,
Gadewch i ni edrych ar ei hôl hi.
Blynyddoedd 3 - 6, Ysgol Hafodwenog
Hud yr Hydref
Mae'n noson dywyll, oer,
Yn y nen uwchben, disgleiria'r lloer.
Niwl yn dawnsio o gwmpas y coed,
Yr olygfa bertaf y gwelais erioed.
Dail yn disgyn oren, brown a choch,
Gwynt yn cochi pob trwyn a boch.
Gwisgo'n gynnes, sgarff, cot a menig,
Naws yr Hydref yn deimlad arbennig.
Mae'r haul wedi mynd ar ei wylie'
A'r gwynt a'r glaw 'di dod adre'.
Gwynt sy'n chwythu, glaw sy'n poeri,
Nawr mae'r dyddiau'n dechrau oeri.
Pawb yn cysgu yn eu tai,
Golau bant a'r lleni 'di cau.
Anifeiliaid oll yn cysgu,
Hud yr Hydref fel swyn dros Gymru.
Ysgol y Berllan Deg
Yr Hydref
Ar noson oer o dan y lloer,
Tylluan yn hwtio o dan y coed.
Ysbrydion ofnus yn crwydro'n hy,
O gwmpas celloedd Castell Lloyd.
Ar noson oer o dan y lloer,
Tân gwyllt yn ffrwydro'n wyllt.
Dail yn disgyn bob yn ail,
Guto Ffowc a'i wyneb hyll.
Ar noson oer o dan y lloer,
Sŵn y gwynt yn chwibanu.
Llwynog cyffrous yn llwgu am ei fwyd,
Lleisiau swynol yr adar yn diflannu.
Blwyddyn 6, Ysgol Gymraeg Rhydaman
Yr Hydref
Mae'r dail yn teimlo'n dost
ac yn awr yn frown fel tost.
Mae'r dail yn disgyn i'r llawr
Mae hi'n fis Hydref nawr.
Rwy'n clywed sŵn y gwdihŵ
yn dweud tw-it-tw-hw,
Mae'r eira yn disgyn yn dawel
fel dandryff Simon Cowell.
Mae'n noson oer o dan y lloer
a'r dail yn goch ar fy moch.
Ynghanol yr oerni mae'r glaw yn poeri
a'r anifail lleiaf yn ofni'r gaeaf.
Mae'r gwynt yn chwythu yn dawel
fel llais tylluan ar yr awel.
Mae'r haf wedi diweddu,
Diolch am y cynhaeaf eleni.
Blwyddyn 6, Ysgol Gwaun y Nant
Yr Hydref
Mae hi'n noson oer
Ac mae'r glaw yn disgyn fel poer.
Mae'r coed fel cawr mawr,
A'r niwl yn symud yn dawel.
Syrthiai'r dail fel eira ar lawr
Yn goch, melyn, porffor ac oren.
A'r brigau fel dwylo sgerbwd
Yn denau ac yn bwyntiog.
Mae'r coed, sy'n dawnsio yn y gwynt,
Fel ysbrydion chwim yng nghanol y niwl.
Mae popeth yn noeth,
Yn unig heb gwmni y blodau hardd.
Blynyddoedd 5 a 6, Ysgol Bro Ingli, Trefdraeth
Yr Hydref
Roedd hi'n noson dywyll oer,
A golau yn dod o'r lloer.
Y bluen gyntaf yn disgyn,
Fel darnau bach o blisgyn.
Y dail yn dawnsio i lawr,
Ac yn cwympo ar y llawr.
Mae'r anifeiliaid yn mynd i'r gwely,
A nawr mae angen tawelu.
Mae pawb eisiau menig
Achos eu bod nhw'n arbennig.
Mae'n oer iawn tu fas,
O! mae'r awyr yn las!
Ysgol y Frenni, Crymych
Yr Hydref
Y gwynt yn chwythu'n oer,
A'r cymylau'n bygwth poer.
Dail yn disgyn yn fawr
A'r coed yn sgerbwd garw.
Troi y goeden o brydferthwch
I ryw sgerbwd moel o dristwch.
Dawnsio ar garped o enfys
Wrth lyfu'r craciau ar fy ngwefus.
Mae'r eira'n syrthio'n araf
Arwydd oer y gaeaf.
Mae'n glanio ar ein caea'
Gan lenwi llond fy merfa.
Plant yn llithro wrth sglefrio
Chwerthin! Ond eto'n brifo!
Mae Carnguwch wedi ei orchuddio
Fel pen wŷ wedi'i ffrio.
Wel, mae'r hydref wedi cyrraedd
Eto 'leni, fel wnaeth y llynedd.
Ysgol Pentreuchaf
Bore o Dachwedd ger Abaty Hendygwyn
Cap, sgarff a menig am ein dwylo.
Yr haul yn llif-oleuo'r ddaear
A thaflu cysgodion hir ar draws ein llwybr.
Dail yr hydref yn drwch o dan ein traed.
Rhew cyntaf y gaeaf fel sierbet yn eu haddurno.
Fferm Bryngwyn ar ochr y bryn
Yn disgleirio seren yn yr haul.
Cloddiau taclus yn croesi'i gilydd
Fel X ffactor.
Sefyll ar bont Nant Colomendy
A'r dŵr yn byrlymu o dan ein traed.
Haenen denau o iâ ar wyneb y dŵr
Fel dalen o bapur coginio.
Cwmwl llwyd golau fel candi fflos
A phelydrau'r haul yn ymestyn dros
Yr adfail fel ffan enfawr.
Hen walydd cerrig
Yn llonydd a distaw
Fel mynwent.
A'r iorwg yn eu dal i fyny.
Cap, sgarff a menig am ein dwylo
Ar fore o Dachwedd ger Abaty Hendygwyn.
Dosbarth 4C, Ysgol Gynradd Hendygwyn
Yr Hydref
Coch ac oren, brown a melyn
Pob un yn gorffen pan ddaw’r celyn.
Ar y llawr mae lliwiau’r enfys
Yn fy maglu yn ddireudus.
Finnau’n llithro ar y llawr,
Braich a choes mewn plastar nawr!
Dail yn niwsans erbyn hyn
Rhowch y cwbl yn y bin!!!!
Bl.5 a 6. Ysgol Santes Helen
Sain Ffagan
Ti yw cartref y celtiaid,
Yn llawn o atgofion hen fyd.
Pobl gryf a dyfeisgar ein gorffennol,
A ni? Da ni yma o hyd.
Bl 6. Ysgol y Berllan Deg
Un Noson o Hydref
Roedd hi’n noson dywyll oer,
A’r anifeiliaid yn cysgu o dan y lloer.
Roedd wiwerod yn casglu cnau,
A’r gwdihw yn prysur lanhau.
Yn sydyn, dechreuodd fwrw glaw,
A throdd y cae yn faw.
Fel bwled, fe ddeffrodd y moch
A clywyd gwaedd fawr o “soch-soch!”
Deffrodd y moch y fuwch,
A gwaeddodd hwnnw’n uwch !
Rhedodd y ceffyl a neidiodd,
A gwylltiodd yr hen ffarmwr a chegodd.
Ciciodd y ceffyl ei fan,
A dihunodd y seiren pawb lan !
Criodd y ffermwr yn dawel,
Yna, peidiodd y glaw a daeth awel.
Ymlwybrodd yr hen ffermwr i’w sied,
A galwodd ei wraig e’n hen slej!
Dosbarth 5T Ysgol Pen-Y-Garth
Yr Hydref
Mae’r dail yn disgyn yn dawel
Yn llifo yn yr awel
Ac yna’n troi yn felyn
Mae y celyn.
Hydref fel oergell
Yn crynu o dan y lloer.
Mae’r niwl yn drwchus ar y cae
A nifer o ddail ar y coed yn mynd yn llai.
Yn yr awyr mae’r lloer
A mae’r tywydd yn oer.
Mae’r dail yn goch, brown oren ac aur,
A dyw’r ysbrydion Calan Gaeaf yn dweud gair.
Mae Calan Gaeaf wedi dod
Mae pawb yn gwisgo lan yn od!
Gwrachod, diafol a sgerbydau
Ysbrydion a zombiau!
Ond nid yw pethau fel hyn yn bod!
Woosh! Oren, melyn, coch –
Dwi’n teimlo’r gwres ar fy moch
Ar noson tân gwyllt,
Diolch byth does dim mellt!
Mae’r tân gwyllt yn gwichian fel moch!
Bang! Cracl! Pop! Bwm!
Dyma’r tân gwyllt yn gwneud ei sŵn.
Lliwiau gwahanol yn popio yn yr awyr
Yn gwneud patrymau hynod o ddifyr.
Mae amser tân gwyllt wedi dod i ben.
Helo yr Hydref,
Hwyl fawr yr haul.
Mae hi’n dywyll fel ogof,
Rwy’n hwyr i’r ysgol!
Dosbarth Math. Bl.6 ysgol y Berllan Deg


