Magwyd Myrddin ap Dafydd yn Nyffryn Conwy, yn fab i lyfrwerthwyr, ac yn 1980 sefydlodd Wasg Carreg Gwalch. Enillodd gadeiriau’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1990 a 2002 gan arddel ac arbrofi dipyn gyda mesurau traddodiadol. Bu’n Fardd Plant Cymru 2000-2001 ac mae paratoi cerddi i ieuenctid, yn ogystal â chyfrannu at gynnyrch tim Talwrn y Tir Mawr, wedi hogi ei ddiddordeb mewn nifer o fesurau amrywiol. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth i oedolion a phlant. Ef oedd Archdderwydd Cymru rhwng 2019-2023.