Menu
Cymraeg
Contact

Dyma le sy’n werth y byd,

yn cynnig croeso mawr o hyd,

lle i swatio’n gynnes, glyd,

lle i fynd am stori.

 

Dyma le i ti a mi,

i Mam a Dad, Mamgu, Tadcu,

bawb ohonoch dewch yn llu,

dewch i mewn am stori.

 

Nid oes angen ceiniog goch

i ddod i mewn, na chanu cloch.

Mae’r drws ar led am naw o’r gloch!

Dewch i ddewis stori.

 

Llyfrau ffeithiol rif y gwlith,

straeon antur yn eu plith,

stori ysbryd yn llawn rhith –

dyna beth yw stori!

 

Yma cewch fynd ar y we,

anfon ebost amser te,

chwarae gemau gwych – hwrê!

Mae yma fwy na stori.

 

Plantos bach yn canu’n braf,

sialens ddarllen yn yr haf,

gweld cymydog – sgwrs a gaf.

Dyma le am gwmni.

 

Dyma le sy’n werth y byd

yn estyn croeso mawr o hyd

lle i swatio’n gynnes, glyd,

llyfrgell i’w thrysori.

 

 

Casia Wiliam

 

Back to Bardd Plant Cymru Poems