Menu
Cymraeg
Contact

Dyma dymor dosbarthiadau, glaw a dechreuadau,

Tymor y cynhaeaf, a thymor yr afalau:

Y ffrwyth a’i galon serog, ei hadau amyneddgar,

Ffrwyth yr ardd, y saeth, y goeden, a ffrwyth yr athro gweithgar.

 

Ac fel bod calon afal yn cuddio’r hadau bach,

Ym mhob plentyn tyfa’r freuddwyd am Gymru werdd ac iach;

Cynnal fflam wna’r enaid ifanc, a’r swyn sydd yno’n suo.

Clywch chi’r newid ar y gwynt, a sŵn y ddraig yn rhuo?

Back to Bardd Plant Cymru Poems