Menu
Cymraeg
Contact

Wyt ti’n clywed sŵn y gwynt?

Sŵn ei hanes hi?

Sŵn y llong yn mynd i’r mor,

sŵn hen stori ar y lli.

 

Sŵn, sŵn, sŵn.

 

Wyt ti’n teimlo’r heulwen braf,

teimlo’r glaw a’r storm?

Hi oedd ddewr yng ngwyneb

pob un rhwystr ar ei llong.

 

Sŵn, sŵn, sŵn.

 

Do, mi ddaeth ei gwanwyn

yn fywyd newydd inni.

Do, mi ddaeth ei gwanwyn,

merch y môr,

mil henffych iti.

 

Back to Bardd Plant Cymru Poems