Menu
Cymraeg
Contact

Ys gwn i

A yw Usain Bolt

Yn gorwedd ar ddihun yn ei wely

Liw nos?

 

Ys gwn i

A yw’n teimlo’r ias

Fel pob athletwr arall y noson

Cyn y ras?

 

Neu a yw

Yn ei gysuro’i hun

Fod pob Olympiad heno

Ar ddihun?

 

Pob nofiwr,

Pob neidiwr,

Pob mabolgampwr cry’,

Pob un yn effro dan ei gwrlid

Yn ei dŷ.

 

Fe wn i

Ei fod yn gwybod nawr

Y bydd yn sefyll gyda phob un arall

Law yn llaw.

 

A gwn i,

Os daw e’n rhif un,

Y bydd ei wen yn fawr o dan ei faner

Ef ei hun.

 

 

Eurig Salisbury

 

Back to Bardd Plant Cymru Poems