Menu
Cymraeg
Contact

Dros bont binc arbennig, yng nghanol y coed
mae’r byd mwyaf hudol a welwyd erioed.
Ac ynddo mae bwthyn sydd ’run siâp ag ŵy,
mae’n gartref i’n ffrindiau – a wyddoch chi pwy?

Ie, Triog a Bolgi a Jangl a Cyw,
a Llew, Plwmp a Deryn. Mae’n dipyn o griw!
Mae’n fyd sy’n llawn chwerthin, caneuon a sbri.
Byd Cyw! Byd llawn antur i ti ac i mi.

A heddiw cawn ddathlu mewn parti! Hwrê!
Mae’n ben-blwydd ar Cyw! Cawn gacen i de!
Ffwrdd â ni dros y bont, ffwrdd â ni trwy y coed,
mae pawb yno’n aros! Mae’r parti ar droed!

 

 

Casia Wiliam

 

 

Nôl i Cerddi Comisiwn Bardd Plant Cymru

Back to Bardd Plant Cymru Poems