Menu
Cymraeg
Contact

Trysor

 

I Mererid Hopwood a’i nofel Miss Prydderch a’r Carped Hud- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2018

 

Daeth sŵn dy stori i’w swyno,

aeth â nhw, blant Cymru, am dro

i goedwig sy’n llawn dirgelwch,

dy eiriau’n dawnsio; hudol lwch.

Eu dychymyg sy’n nadreddu

heb gerdded cam trwy ddrws y tŷ

a gwreichion dy hud a’th ledrith

sy’n troi eu byd go iawn yn rhith.

Darllen yn chwim, gwrando’n astud,

y maent ar fwrdd dy garped hud;

rhoddaist drysor i’n plantos ni,

eu dysgu i garu stori.

 

 

Casia Wiliam

 

 

 

Y Fordaith

 

I Myrddin ap Dafydd a’i gyfrol Mae’r Lleuad yn Goch- Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2018

 

Daeth dy stori i’n casglu,

ein Habana; aeth â ni dros y lli.

 

Ar ei bwrdd gwelsom lewyrch

dewrder a derwen Gernika,

eu gwreiddiau’n dal yn dynn

tra bod eu gwlad yn fflamau.

 

Ac yn howldiau’r llong hon

gwelsom sacheidiau

yn gwegian dan groeso’r Cymry

a rhyfel hedd ein harwyr ni.

 

Nawr, â dwy faner yn cyhwfan

a gwynt yr hanes lond ein hwyliau,

cofiwn ninnau.

 

 

Casia Wiliam

 

Nôl i Cerddi Comisiwn Bardd Plant Cymru

Back to Bardd Plant Cymru Poems