Menu
Cymraeg
Contact

I Manon Steffan Ros a’i nofel Pluen

 

Daeth pluen fel ochenaid,

fel chwa o awen.

Cofleidiaist hi fel hen ffrind.

 

Nawr,

mae Pluen arall

yn ochenaid yn nychymyg yr ifanc,

yn ffrind.

 

A’r bluen honno

fydd o hyd yn dy het.

 

 

Anni Llŷn

 

 

 

I Luned Aaron a’i chyfrol ABC Byd Natur

 

Alarch. Broga. Cragen.

Mae bywyd ym mhob llythyren.

A thithau, Luned, yn plannu’r hedyn,

tyfu iaith a thyfu byd plentyn.

Y lliwiau o dan eu bodiau bach

yn wefr, fel clywed cyfrinach.

 

 

Anni Llŷn

Back to Bardd Plant Cymru Poems