Un
fflam
yn cynnu,
yn crynnu
sbarc yn fyw,
crafu lliw
i’w droi’n lludw.
Creu rhywbeth
o ddim byd.
Y
n
a
Yn
creu
dim
byd
o
rhyw
beth,
troi’r
llyw
i
grafu’r
lludw,
Y
byw
yn
crynnu
yn
y
fflam
Wedi
cynnu
o
un
sbarc.
Siôn Tomos Owen,
Bardd Plant Cymru 2025-2027.