Gwobr 2010

Enillydd - John Davies, Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw
(Y Lolfa)

Alun Ffred Jones a John Davies Hawlfraint: Academi / Emyr Young

I Spy Pinhole Eye gan Philip Gross a gyhoeddwyd gan Cinnamon a enillodd y wobr Saesneg.

Y Rhestr Fer

Caryl Lewis, Naw Mis (Y Lolfa)
Hywel Griffiths, Banerog ( Y Lolfa)
John Davies, Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw (Y Lolfa)

Caryl Lewis Hawlfraint: Academi Hywel Griffiths Hawlfraint: Aacdemi / John Briggs John Davies Hawlfraint: Academi

Yr awduron ar y Rhestr Fer Saesneg oedd Nikolai Tolstoy, Philip Gross a Terri Wiltshire.

Y Rhestr Hir

Caryl Lewis, Naw Mis (Y Lolfa)
Cefin Roberts, Cymer y Seren (Gwasg Gwynedd)
D. Densil Morgan, Lewis Edwards (Gwasg Prifysgol Cymru)
Haf Llewelyn, Llwybrau (Cyhoeddiadau Barddas)
Hywel Griffiths, Banerog (Y Lolfa)
John Davies, Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw (Y Lolfa)
Manon Rhys, Cornel Aur (Gomer)
Manon Steffan Ros, Fel Aderyn (Y Lolfa)
Siân Melangell Dafydd, Y Trydydd Peth (Gomer)
Sian Owen, Mân Esgyrn (Gomer)

Y Beirniaid

John Gwilym Jones

John Gwilym JonesMagwyd yn un o dri brawd ar aelwyd Parc Nest, Castellnewydd Emlyn. Aeth yn weinidog i Gwm Gwendraeth ac yna i Eglwys yr Annibynwyr ym Mangor, a bu hefyd yn treulio rhan o'i amser yn darlithio yn Nulyn ac ym Mangor. Enillodd John gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym 1981 a bu'n Archdderwydd rhwng 1993 - 1996. Bu ef hefyd yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd.

 

 Aled Lewis Evans

Aled Lewis EvansBardd ac awdur mewn amrywiol gyfryngau yw Aled. Bu'n darlledu am ddeng mlynedd ar radio lleol Sain y Gororau o 1983-1993 a bellach mae'n gyfrifol am gynnal sesiynau ysgrifennu creadigol a dosbarthiadau i ddysgwyr yn ardal Wrecsam. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o straeon byrion, a chyfrol arbennig, Y Caffi, yn 2003. Mae ei waith wedi ymddangos mewn nifer o gylchronau, a blodeugerddi sy'n targedu'r arddegau.

 

 Branwen Gwyn

Branwen GwynCyflwynwraig deledu o Gaerdydd yw Branwen. Addysgwyd yn Ysgol Gyfun Glantaf cyn mynychu Prifysgol Bangor lle astudiodd Cerddoriaeth - mae'n chwarae'r piano, y trwmped ac mae hefyd yn gantores medrus iawn. Ers graddio yn 1999, mae Branwen wedi cyflwyno rhaglenni helaeth i S4C, gan gynnwys Planed Plant ac Wedi 7.

 

Y beirniaid ar y panel Saesneg ei hiaith oedd Ian Gregson, James Hawes a Sara Edwards.