Menu
Cymraeg
Contact

 

Awdures ac artist hanner-Ffilipina a hanner-Pakistani o Gaerdydd yw Sadia Pineda Hameed. Mae ganddi brofiad o ysgrifennu barddoniaeth, o arbrofi gyda rhyddiaith, traethodau creadigol, a pherfformiadau gair ar lafar. Hi yw un o gydlynwyr LUMIN, gwasg annibynnol fechan sy’n cyhoeddi gwaith awduron sydd wedi eu tan-gynrychioli yng Nghymru. Daw ei diddordeb mewn ysgrifennu o etifeddiaeth o hanes llafar, colled ôl-drefedigol, crefft, ac o freuddwydio. Mae ei gwaith yn cyffwrdd ar themâu eang fel ei hunaniaeth BAME, perthyn, lle, a theulu, ac yn ôl y panel mae ymdeimlad gref o densiwn rhwng hiraeth, cariad a cholled yn ei gwaith. Mae hi’n grediniol y dylai iaith fod yn rhyngwladol, yn berthnasol, ac yn hawdd i bobl o bob oed, profiad a rhuglder ei ddeall. O ganlyniad, mae hi’n ystyried profiad clywedol, eglurdeb a iaith dydd i dydd yn fanwl wrth ysgrifennu.