Menu
Cymraeg
Contact

Cerdd i nodi 50 mlynedd ers i ddyn gerdded ar y lleuad.

Ar 20 Gorffennaf 1969, cerddodd Neil Armstrong ar y lleuad – y person cyntaf erioed i wneud hynny. Roedd tri ohonynt yn roced Apollo 11, sef Neil Armstrong, Michael Collins a Buzz Aldrin.

 

Dal
yn
dynn.
Un.
Dau.
Tri…
Ac i ffwrdd â ni!
Pawb yn sownd yn ei sêt
pawb yn saff dan ei helmed
y byd i gyd yn dal ei wynt
wrth i’r tri ohonom wibio
yn gynt ac yn gynt trwy’r
awyr i fyny fyny, fyny, fyny
nes bod y tir yn diflannu
nes bod y llawr yn disgyn
a ninnau yn gadael orbit
y ddaear hon, y byd yn troi’n ddot
trwy’n ffenest fach gron ac er yr holl oriau
o ymarfer, y blynyddoedd o ddysgu, cynllunio,
breuddwydio am ddim ond y roced a’r gofod
pan ddaw’r eiliad, pan gamaf allan, a gosod troed
mewn lle na fuodd neb arall erioed o’r blaen
mae fy nghalon yn neidio ac yn dawnsio heb ddisgyrchiant

i’w dal yn ei lle.

 

 

Casia Wiliam

 

 

Back to Bardd Plant Cymru Poems