Menu
Cymraeg
Contact

Ysgrifennwyd ar gyfer seremoni cyhoeddi Gruff fel y Bardd Plant Cymru newydd ym Mai 2019.

 

Mae Cymru’n wlad fach handi os ‘da chi’shio bod yn fardd,

mae’r lle’n llawn pobol ddifyr, a llefydd hurt o hardd.

 

Mae’n mynddoedd fatha cewri, ac mae stori ym mhob stryd,

mae ‘na chwedlau mewn afonydd, mae’n coedwigoedd ni’n llawn hud,

 

ac mae gennym ni enwogion fel Gareth Bale a Mr Urdd,

yr unig beth sydd ddim yn wych am Gymru…..ydi’r ffyrdd!

 

Mae’n lonydd cul hynafol, o’r gogledd tua’r de

yn troelli fatha nadroedd wedi meddwi hyd y lle!

 

Mae pob un lêibai unig yn gyfarwydd iawn i mi

dwi di stopio ‘mhob un rhywdro er mwyn bod yn sâl fel ci!

 

Mae’n dipyn haws trafeilio ar y trên i Tsiena bell

na g’neud eich ffordd drwy Gymru er mwyn ei nabod hi yn well.

 

Does dim fel lonydd Cymru am ein blino ni yn lân

mae nhw bron fel tae nhw yno i’n cadw ni ar wahân.

 

Ond er bod stâd ein lonydd yn fy ngwylltio i o hyd

mae na rywbeth sy’n ein huno, ac mae’n perthyn i ni gyd…

 

Ein hiaith fach ni yw honno! Hen iaith annwyla’r byd,

hen iaith fel fferins lliwgar, hen iaith fel siwmper glyd.

 

Mae’n iaith i bawb a phopeth o Benfro i Ben Llŷn,

o Wrecsam i Gasnewydd ac mae’n eiddo i bob un.

 

Iaith hanesion, iaith sy’n wirion, iaith y galon, iaith ein byd

iaith sy’n odli, iaith barddoni, iaith i’n cadw ni ynghŷd.

 

Fy ngwaith fel Bardd Plant Cymru, (fel pob Bardd Plant Cymru cŵl)

fydd gwibio megis rocet ar draws Cymru, fatha ffŵl!

 

Mi â’i ar drên (trwy Loegr), na’i fynd hyd lonydd cul,

na’i fenthyg helicopter, nai fawdheglu lifft gan ful

 

er mwyn gael cwrdd â chithau, beirdd bach Cymru dros y lle,

er mwyn odli, er mwyn rwdlian gyda’n gilydd, gwlad a thre.

 

Gall cerddi beirdd bach Cymru rhwng Mynwy a Sir Fôn

ein dod â ni’n agosach nag y gallai unrhyw lôn.

 

A dwi’n addo peidio cwyno, mi roi fwy na chant y cant

achos braint fydd pob un modfedd o lôn droellog y bardd plant.

 

Gruffudd Owen

Back to Bardd Plant Cymru Poems