Menu
Cymraeg
Contact

Gruff, bydd yn barod i chwerthin,
bydd yn barod am daith anghyffredin,
bydd yn barod am hyn…

“Faint oed ydach chi?”
“Gesia.”
“Tua pum deg tri?”

“Pam eich bod chi’n hoffi cerddi…
wnaeth rhywun eich gorfodi?”

“Oedd hynna fod yn ddigri?”
“Na, dwi ddim yn licio odli.”

“Ydach chi’n nabod Anni Llŷn?”
“Ond ydach chi’n gallu tynnu llun?”

Bydd yn barod i wenu ac i wrando
i dynnu nhw’n nes a pherswadio,
i ddysgu triciau a rhannu hud geiriau.

A bydd yn barod i wenu fel giât,
bydd yn barod i deimlo iâs
ac i glywed lleisiau yn dawel fach yn dweud…

“Dwi wedi gorffen. Wyt ti’n hoffi hi?”
“Plis gai ddarllen fy ngerdd i ti?”

“Dwi methu aros i ddangos hon i Mamgu.”
“Dyma fy ngerdd gynta i!”

“Dwi’n gallu neud o. Mae hyn yn hwyl!”
“Gai gario mlaen amser egwyl?

“Do ni ddim yn meddwl y baswn i’n licio…
Pryd wyt ti am ddod yma eto?”

Gruff, bydd yn barod i chwerthin,
bydd yn barod am daith anghyffredin,
bydd yn barod i gael dy lapio yn nireidi iaith
a gobaith ein beirdd bach.

 

Casia Wiliam

Back to Bardd Plant Cymru Poems