Menu
Cymraeg
Contact

I Manon Steffan Ros a Jac Jones – enillwyr y categori cynradd gyda’r llyfr ‘Pobol Drws Nesaf’.

 

Yn ein giamocs a’n gemau – ‘run yw’r wên,

‘run yw’r hwyl rhwng ffrindiau;

Ta waeth am wahaniaethau,

Un o dîm ydan ni’n dau.

 

Gruffudd Owen

 

 

 

I Sioned Erin Hughes a holl gyfranwyr ‘Byw yn fy Nghroen’ – enillydd y categori uwchradd.

 

Os daw’r felan i ganlyn – dagrau hallt

byw’n dy groen, bydd rhywun

yno’n tystio drwy’r testun

nad wyt ar ben dy hun.

 

Gruffudd Owen

 

Nôl i Cerddi Comisiwn Bardd Plant Cymru

Back to Bardd Plant Cymru Poems