Coflaid, dyna yw’r cyfle,
gan ysgolion llon hyd’ lle.
Gei di hwyl, gei di hela
straeon yn don o ddweud da.
Odla’, fel pla ym mhob plyg
a chamau’n llawn dychymyg.
Acenion hyd y lonydd
a’r ha’ lond eu cerddi rhydd.
Bydd lliw, chwiw a thorri chwys.
Casia, mae’n fyd llawn cesus,
a gwn y byddi’n gennad
i awen lawen dy wlad.
Anni Llŷn