Menu
Cymraeg
Contact

Cydio’n ein Breuddwydion

“Mae gen i freuddwyd am y wlad

Lle bydd cariad yno,

Lle na fydd dicter mwy, na llid,

Lle na fydd neb yn wylo.”

 

Mae gan bob un ohonom ni

ein breuddwyd a’n gobeithion,

mae gan bob un ohonom ni

ein ffrindiau a’n gofalon,

ac o dro i dro

daw’r gwyntoedd mawr

i blannu man amheuon,

ond drwy bob tywydd

gwerthfawr yw

cydio’n ein breuddwydion.

 

Boed hi’n freuddwyd fawr

neu’n freuddwyd fach,

clyw hi’n siffrwd

yn y galon

yn eiddgar aros am ei hawr

i dywallt ei bendithion,

mae hud a lledrith

ym mhob man

dim ond i ninnau wrando,

yfory newydd sydd ar droed

a phob un ohonom

yn rhan ohono.

 

Mae gan bob un ohonom ni

ein breuddwyd a’n gobeithion,

mae gan bob un ohonom ni

ein ffrindiau a’n gofalon,

ac o dro i dro

daw’r gwyntoedd mawr

i blannu man amheuon,

ond drwy bob tywydd

gwerthfawr yw

cydio’n ein breuddwydion.

 

 

Casi Wyn,
Bardd Plant Cymru 2021-2023

 

Nôl i Cerddi Comisiwn Bardd Plant Cymru

Back to Bardd Plant Cymru Poems