Ar lôn unig gyda’r wawr
fe gyrchaf fi drwy’r broydd
dan sŵn unig, sŵn unig iawn
cân olwynion yn cnoi lonydd.
Ni ddaeth y wawr gyda mi
yr holl ffordd, mae’n fore llwyd,
a main yw’r iaith a glywaf
i gyfeiliant gwichian y glwyd.
Ond enfys sy’n fy nisgwyl,
o wên i wên daw’r geiriau’n fyw;
â’u brwshys â beirdd i baentio
geiriau’n lluniau o bob lliw.
Nid yw’r lôn yn unig nawr
mae hi’n canu ar ei hyd,
ym mhobman mae gen i gwmni
holl gerddi’r plant i gyd.
Aneirin Karadog