Dewislen
English
Cysylltwch

Cwrs Egin Awduron Rhys Davies


Cwrs digidol pum niwrnod o hyd, wedi’w ariannu gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies, i ddarparu cyfleoedd datblygu ar gyfer awduron o liw o Gymru.
Y Cwrs

Wedi ei ddatblygu gyda’r nod o wella cynrychiolaeth oddi fewn i’r sector, mae Cwrs Egin Awduron Rhys Davies, yn gam ychwanegol yn ymdrech Llenyddiaeth Cymru i drawsnewid diwylliant llenyddol Cymru i fod yn un sydd yn adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru ac i sefydlu ffrwd o dalent Cymreig newydd a fydd yn cael eu cydnabod yma yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn  ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Rhys Davies am gefnogi’r cwrs fydd yn datblygu lleisiau newydd ym myd llenyddiaeth Cymru.

 

Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb

Mae’r prosiect hwn yn rhan o strategaeth Llenyddiaeth Cymru i gefnogi a denu sylw i leisiau amrywiol o fewn Diwylliant Llenyddol Cymru, gan weithio i sicrhau fod y sectorau llenyddiaeth a chyhoeddi yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.

Mae Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2029-22 yn amlinellu Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb fel un o’i brif flaenoriaethau. Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu y dylai pawb, beth bynnag eu cefndir, deimlo fel eu bod yn rhan o’r byd llenyddol yng Nghymru, ac fod ganddynt y rhyddid i gyfrannu at, a llywio ei ddyfodol.

Awduron 2021

Yn griw amrywiol eu hoedrannau a’u cefndiroedd, maent oll yn awduron rhyddiaith ar gychwyn eu gyrfaoedd ysgrifennu. Wedi eu lleoli dros Gymru gyfan o Sir Fôn, Wrecsam, Y Gelli i lawr i’r Bari a thu hwnt – bydd y criw yn cymryd rhan yn y cwrs eleni yn rhithiol. Caiff y cwrs ei arwain gan y nofelwyr Désirée Reynolds a Jacob Ross, ac mae’r cynnwys wedi ei ysbrydoli gan gyrsiau preswyl tebyg a gaiff eu cynnal yng nghanolfan ysgrifennu Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, cyfarfodydd un-i-un, darlleniadau, a sgyrsiau gan arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol.

Bydd pob un o’r 10 awdur hefyd yn derbyn sesiynau mentora unigol yn dilyn y cwrs, yn ogystal â sesiynau gydag aelodau staff Llenyddiaeth Cymru i annog datblygiad ac i ddilyn cynnydd eu gwaith creadigol.

Gallwch ddarllen gwybodaeth bellach am y 10 awdur isod, neu am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn neu unrhyw gyfleoedd datblygu awduron pellach dilynwch Llenyddiaeth Cymru ar TwitterFacebook ac Instagram.

 

Dychwelyd at ein prosiectau