Digwyddiadau
Gwener 17 Chwefror 12
Dal dy Dafod – sioe farddol newydd Twm Morys, Mei Mac, Ifor ap Glyn, Myrddin ap Dafydd a Geraint Løvgreen. Bydd y sioe hon yn dilyn llwyddiant teithiau tebyg yn y gorffennol, megis Iwan ar Daith (2010) a Taith y Saith Sant (2002). Tafarn y Duke, Caerdydd. Amser i'w gadarnhau. Am fanylion pellach cysylltwch ag Aled Wyn ar aled.wyn.phillips@btinternet.com / 07974 747 881 neu Myrddin ap Dafydd: myrddin@carreg-gwalch.com / 01758 750 440. Noddwyd gan Llenyddiaeth Cymru.
Gwener 17 Chwefror 12
Mawrth 21 Chwefror 12
Bydd Clwb Llyfrau Llenyddiaeth Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn croesawu'r awdur a'r newyddiadurwr Jasper Rees i drafod ei lyfr Bred of Heaven (Profile Books, 2011). Bydd Grahame Davies yn arwain y drafodaeth. Bydd y drafodaeth wedi ei anelu ar gyfer dysgwyr Cymraeg, ond mae croeso cynnes i bawb.Digwyddiad Saesneg. 7.00 - 8.00 pm, Canolfan Glyn Jones, Canolfan Mileniwm Cymru. Digwyddiad am ddim, ond rhaid archebu eich lle o flaen llaw drwy ffonio 029 2046 2277 / post@llenyddiaethcymru.org
Llun 5 Mawrth 12
4.00 - 6.00 pm, Campws Cyncoed, UWICDigwyddiad Saesneg
Bydd Awdur Llawryfog Plant Lloegr, Julia Donaldson yn ymweld â Chymru, ac yn rhoi darlith am bwysigrwydd darllen er mwyn pleser, a phwysigrwydd darluniau mewn llyfrau. Bydd ein Awdur Llawryfog Pobl Ifainc ninnau, Catherine Fisher, a Bard Plant Cymru, Eurig Salisbury yn ymuno â hi ar gyfer y digwyddiad cyntaf erioed i ddod â thri laureate ynghyd. Bydd llyfrau ar werth. Mae tocynnau yn £5.00, a gallwch eu archebu drwy gysylltu â: jbowers@uwic.ac.uk
Mawrth 13 Mawrth 12


