Menu
Cymraeg
Contact

twt lol
Emyr Lewis
(Gwasg Carreg Gwalch)

‘ceir yn twt lol gyflwyniad ardderchog i rychwant dawn Emyr Lewis. Er bod y cerddi’n amrywio’n fawr o ran ffurf, cywair a thestun, mae pob un yn greadigaeth feistrolgar.’ – Jerry Hunter, Barddas

Dyma gasgliad cyntaf o gerddi’r bardd ers pedair blynedd ar ddeg. Mae felly’n rhychwantu nifer o flynyddoedd ac mae dolennau teuluol cryf yn y gyfrol. Mae’n cynnwys darluniau pen ac inc gan Esyllt ei ferch ac mae’r teitl yn ‘rhyw fath o deyrnged’ i’w fam. Collodd y bardd ei rieni yn y pedair blynedd ar ddeg hynny ac mae ganddo gerddi sy’n mynegi’i hiraeth tyner ar eu hôl. Mae Emyr Lewis yn nodedig am ei hiwmor chwareus wrth drin geiriau, ac mae hynny i’w ganfod rhwng y cloriau hyn ynghyd â cherddi am ddathliadau hapus. Ond efallai prif nodwedd y casgliad hwn ydi llymder tafod y bardd wrth drafod hanes diweddar Cymru, yn cynnwys problemau y datganoli sydd ohoni a Brexit.

Ganed EMYR LEWIS yn Llundain a magwyd ef yng Nghaerdydd. Mae’n byw yn y Parsel Mawr. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd yn 1994 a’r goron ym Mhenybont yn 1998. twt lol yw ei drydydd (neu efallai bedwerydd) casgliad o gerddi.

 

Cyrraedd a cherddi eraill
Alan Llwyd
(Cyhoeddiadau Barddas)

“bardd sy’n ceisio cynnal fflam ei weledigaeth mewn byd llawn croeswyntoedd” – Dafydd John Pritchard, adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Cyfrol o gerddi a luniwyd rhwng 2016 a 2018 yw Cyrraedd a Cherddi Eraill. Ceir dwy adran i’r gyfrol. Yn yr adran gyntaf, ‘Cyrraedd’, ceir ychydig dros 70 o gerddi sy’n dathlu’r ffaith fod yr awdur wedi cyrraedd 70 oed – oed yr addewid. Cerddi bywgraffyddol a phersonol yw’r rhain, i raddau, cerddi sy’n gorfoleddu ac yn galaru, yn llawenhau ac yn tristáu wrth edrych yn ôl ar droeon y daith. Ceir yma amrywiaeth o fesurau, gyda’r gynghanedd yn rhoi min i’r mynegiant a gorffennedd i’r arddull. Trwy’r cyfan, ac yn gefnlen i’r cyfan, y mae’r môr yn bresenoldeb amlwg, un ai fel rhan naturiol o ddaearyddiaeth y cerddi, neu fel delweddau neu symbolau. Cerddi achlysurol, rhai’n bersonol a rhai’n gymdeithasol, a geir yn ail adran y gyfrol.

Mae’r Prifardd ALAN LLWYD yn fardd ac yn llenor adnabyddus. Cyhoeddodd nifer helaeth o gyfrolau o farddoniaeth, gan gynnwys dau gasgliad cyflawn, yn ogystal â blodeugerddi, cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, cyfrolau ar hanes a diwylliant Cymru a chyfrolau arbenigol ar y gynghanedd. Enillodd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd ym 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ym 1976. Bu’n gweithio fel swyddog gweinyddol Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod a hefyd fel golygydd y cylchgrawn o 1981 hyd 2011. Yn 2012 dyfarnodd Prifysgol Cymru radd Doethuriaeth mewn Llên iddo, ac fe’i penodwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, yn 2013.

 

Stafell fy Haul
Manon Rhys
(Cyhoeddiadau Barddas)

“Cewch bleser o ddarllen cynnwys amrywiol y gyfrol hon.” – Glenys M. Roberts, adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Cyfrol hunangofiannol ei naws yw Stafell fy Haul. Wrth olrhain profiadau plentyndod, arddegau ac atgofion teuluol, ymdrinnir â galar o wahanol safbwyntiau, hiraeth a difaterwch neu ddiymadferthedd pobl yn wyneb trychineb. Ond plethir hiwmor hefyd i’r sgwennu – yn niniweidrwydd y siarad a naturioldeb y cymeriadau. O ran arddull, mae’r gyfrol yn archwilio’r ffiniau hynny rhwng ‘rhyddiaith’ a ‘barddoniaeth’ a chynhwysir cerddi (sef tair pryddest a dau gyfieithiad), straeon byrion a llên micro yn y gyfrol. Cynhwysir hefyd ddarluniadau pen ac inc gan yr artist Siôn Tomos Owen.

Llun y clawr: Siôn Tomos Owen

Mae MANON RHYS yn awdur doreithiog. Cyhoeddodd nifer o nofelau a straeon byrion ac y mae hefyd wedi ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm. Yn 2002 cyhoeddodd olygiad o waith ei thad, y bardd a’r dramodydd J. Kitchener Davies, ar y cyd â M. Wynn Thomas: James Kitchener Davies: Detholiad o’i waith. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011 gyda’i nofel Neb ond Fi, a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, 2015. Mae’n byw yn Radur, Caerdydd.

 

Back to Wales Book of the Year