Dewislen
English
Cysylltwch

Nawdd i Awduron: Cynlluniau Ysgoloriaethau a Mentora Llenyddiaeth Cymru nawr ar agor

Cyhoeddwyd Mer 24 Gor 2019 - Gan Literature Wales
Nawdd i Awduron: Cynlluniau Ysgoloriaethau a Mentora  Llenyddiaeth Cymru nawr ar agor
© Andrew Cockerill
Dyddiad Cau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 10 Medi 2019.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora 2020 nawr ar agor i dderbyn ceisiadau.

Yn ychwanegol i’n cynnig arferol, mae’n bleser gennym gyhoeddi cydweithrediad newydd rhwng Llenyddiaeth Cymru, National Centre for Writing, Norwich a Chyfnewidfa Lên Cymru, ar gyfer Cynllun Mentora 2020.

Yn y flwyddyn beilot hon, bydd y cydweithrediad hwn yn cynnig cyfle arbennig i egin gyfieithwyr, sy’n gweithio ar gyfieithu llenyddol o Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, yn cynnwys cyfnewid rhwng unigolion o Gwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru a Chwrs Mentra Cyfieithu y National Centre for Writing yn Norwich. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’n partneriaid ar y cyfle hwn, gan fanteisio ar arbenigedd Cyfnewidfa Lên Cymru a’r National Writing Centre.

 

Cynllun Mentora

Dyddiad Cau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 10 Medi 2019.

Mae’r Cynllun Mentora yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron ar ddechrau eu gyrfa trwy gynnig lle ar gwrs mentora pwrpasol yn ogystal â chyfres o sesiynau un-i-un gydag awdur profiadol, er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi. Gall egin awduron berthyn i unrhyw grŵp oedran. Bydd Cynllun Mentora 2020 yn dechrau gyda chwrs preswyl wythnos o hyd yn Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Mawrth 2020. Yn y misoedd yn dilyn y cwrs ceir sesiynau unigol un-i-un gyda mentor profiadol.

Dywedodd Dyfan Lewis a dderbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn 2019: “Galluogodd yr Ysgoloriaeth Awdur Newydd i mi gymryd amser i ysgrifennu, datblygu a mireinio fy ngwaith o dan fentoriaeth awdur oedd yn deall ergyd thematig y gwaith i’r dim. Yn bwysicach efallai, roedd yn hwb i mi ddatblygu hyder fel awdur.”

Mewn datblygiad newydd ar gyfer 2020, bydd Llenyddiaeth Cymru yn neilltuo un o’r pedwar lle ar y Cynllun Mentora ar gyfer cyfieithu llenyddol (Saesneg i Gymraeg neu Cymraeg i Saesneg). Bydd y dyfarniad hwn yn cynnwys lle ar Gwrs Mentora Cyfieithu y National Centre for Writing, yn Norwich fis Ionawr 2020, yn ogystal â lle ar Gwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru fis Mawrth 2020.

Ceir rhagor o wybodaeth yma.

 

Ysgoloriaethau i Awduron

Dyddiad Cau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 10 Medi 2019.

Mae Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn galluogi awduron i ddatblygu gwaith newydd, heb fod unrhyw ymrwymiad i’w gyhoeddi. Mae hyn yn rhoi’r rhyddid i awduron fentro i dir newydd a datblygu eu proses artistig, gan roi’r amser a’r adnoddau iddynt ymroi i ymchwilio, ysgrifennu, ail-edrych ac adlewyrchu. Mae rhai Ysgoloriaethau wedi eu clustnodi yn benodol er mwyn datblygu awduron newydd, ac yn rhoi cyfleoedd i egin awduron ddatblygu eu sgiliau creadigol a datblygiad proffesiynol. Gall egin awduron berthyn i bob grŵp oedran.

Mae’r cynllun Ysgoloriaethau yn agored i awduron ar ddechrau eu gyrfaoedd ac awduron profiadol fel ei gilydd. Mae rhai o’r awduron sydd wedi derbyn cefnogaeth yn y gorffennol yn cynnwys Mererid Hopwood, Huw Aaron, Lleucu Roberts, Ifan Morgan Jones, Aled Jones Williams, Mari George, Iwan Huws, Gareth Morgan Jones ac Elidir Jones. Mae rhai o’r gweithiau hyn wedi gweld golau dydd ar ffurf llyfr print, rhai yn parhau i gael eu datblygu, a rhai wedi arwain yr awdur ar drywydd creadigol gwahanol.

Mae cynllun Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi awduron i ddatblygu gwaith penodol ar y gweill dros gyfnod o flwyddyn. Croesewir ceisiadau gan awduron ar wahanol adegau yn eu gyrfa.

Dyfernir Ysgoloriaethau i Awduron er mwyn cefnogi awduron sy’n creu gwaith newydd yn y genres canlynol: rhyddiaith, yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llenyddiaeth plant, llenyddiaeth i bobl ifanc; barddoniaeth; nofelau graffeg; rhyddiaith ffeithiol greadigol, yn cynnwys beirniadaeth lenyddol, cofiant/hunangofiant.

Dywedodd Marged Tudur, a dderbyniodd Ysgoloriaeth Awdur 2019: “Ym mis Chwefror 2019, bûm yn ddigon ffodus i dderbyn cyfnod o fis i ffwrdd o’r gwaith. Galluogodd taliad cyntaf yr Ysgoloriaeth Awdur i mi fynd yn ddi-dâl o’r gwaith ac rwyf yn gwerthfawrogi cefnogaeth ariannol yr ysgoloriaeth a chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru i wireddu hynny. “

Gwahoddir ceisiadau gan awduron newydd ac awduron cyhoeddedig sy’n byw yng Nghymru. Gall unigolion ymgeisio am y canlynol:

  • Ysgoloriaeth Awdur: Swm penodol o £3,000.
    Caiff 5 Ysgoloriaeth Awdur eu clustnodi ar gyfer awduron newydd sydd heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith. Yn ogystal, clustnodir un Ysgoloriaeth ar gyfer awdur o dan 25 mlwydd oed.
  • Ysgoloriaeth Cefnogi: Swm hyd at £1,000 er mwyn cynorthwyo awduron sydd ag anawsterau symudedd neu anableddau, sydd angen cyfarpar arbenigol neu gymorth.

Ers 2011, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dosbarthu £673,000 o Ysgoloriaethau, gyda chyfanswm o 204 o ddyfarniadau.

Ceir rhagor o wybodaeth yma.

 

Y Panel

Bydd Panel annibynnol yn asesu’r ceisiadau ac yn dyfarnu Ysgoloriaethau ar gyfer gwaith o’r radd flaenaf. Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r tri aelod newydd fydd yn ymuno â’r Panel Ysgoloriaethau sef: Yr Athro Matthew Jarvis, Dr Tomos Owen ac Elinor Wyn Reynolds. Byddant yn ymuno â’r aelodau presennol Catherine Phelps, a Chadeirydd y Panel, Sioned WilliamsDarllenwch ragor amdanynt yma.

Ym mis Mai 2019, lansiwyd Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru 2019-2022 gydag ymrwymiad i gefnogi egin awduron yn ganolog i’r strategaeth am y dair blynedd nesaf. I’r perwyl hwnnw, mae’r Cynlluniau Ysgoloriaethau a Mentora eleni unwaith eto’n rhoi rhagor o bwyslais ar awduron newydd, cynnydd yn y cyfleoedd mentora, a datblygu cysylltiadau gwell rhwng yr ymgeiswyr llwyddiannus a chynrychiolwyr o’r diwydiant.

Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Rydym yn falch iawn bydd Ysgoloriaethau Awduron a’r Cynllun Mentora yn parhau i gael eu cefnogi’n hael gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n bleser gennym gyhoeddi cydweithrediad newydd rhwng Llenyddiaeth Cymru, National Centre for Writing a Chyfnewidfa Lên Cymru. Bydd hyn yn cynnig cyfle arbennig i egin gyfieithydd gymryd rhan yng Nghynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru. Edrychwn ymlaen at ddathlu diwylliant llenyddol Cymru gyda gwledd o ysgrifennu newydd.”

Cefnogir Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Ysgoloriaethau a Mentora 2020 yw: 5.00 pm, Dydd Mawrth 10 Medi 2019.

Mae canllawiau llawn a ffurflenni cais ar gyfer Ysgoloriaethau 2020 a Mentora 2020 ar gael i’w lawrlwytho o wefan Llenyddiaeth Cymru: Ysgoloriaethau / Mentora.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru.