‘#HebOfn – Iechyd Meddwl mewn Geiriau’ 16 Mai 2019. Noson ar gyfer dathlu manteision a phwysigrwydd cydweithio rhwng y celfyddydau a byd iechyd meddwl. Cawn gyfle i wrando ar Patrick Jones, artist preswyl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru (ac arweinydd ein prosiect celf a dementia #DymaFyNgwirDywedDyWirDi) a’r beirdd adnabyddus Eric Ngalle Charles, Mark Smith, Parvin Ziaei, Christina Thatcher, a Mab Jones, wrth iddynt adrodd ar eu profiadau iechyd meddwl personol a chyflwyno enghreifftiau o’u gwaith sydd wedi’u dylanwadu gan eu teithiau bywyd. Yn ogystal, cawn gyfraniad gan Mair Elliott, Cynrychiolydd Cleifion Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, ac enillydd Gwobr Dewi Sant 2018. Ynghyd â’i phrofiadau personol, mae Mair hefyd yn awdures a gweithredwraig flaenllaw, yn parhau’r frwydr a phleidio’r achos dros hawliau’r rhai hynny sydd wedi profi anhwylder iechyd meddwl.

‘Credaf fod y celfyddydau creadigol, ysgrifennu yn enwedig, yn fodd i ni iachau ein hunain ac anghofio’r boen. Rydym yn anghofio ein gorffennol a’r dyfodol, a byw bywyd. O’n rhan ni, yn artistiaid ac/neu yn ymarferwyr, mae’n ddyledus arnom i ailymweld â’r hyn sydd wedi arwain at ein taith greadigol. Yn aml rwyf yn ystyried y rheswm i mi ddechrau ysgrifennu. Fe ddaeth y geiriau i mi rywsut o brofi unigrwydd, torcalon, anobaith, tristwch a chynddaredd. Hefyd, rwyf yn edrych yn ôl ar yr adegau ffrwydrol hynny a sut roeddwn yn teimlo. Dyna sy’n allweddol. Teimlo.’

  • Patrick Jones, Artist Preswyl, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru

daniel.jones@rcpsych.ac.uk / 02922 33 1080