Heb awch fydd hanes pob un helfa
tra bo llais y llew yn fud
(Dihareb o Affrica)

Y werddon – Straeon o’r Casgliad gyda Bevin Magama

Ynghyd â’r storïwr a’r awdur Bevin Magama, mae pobl ifanc wedi bod yn astudio gwrthrychau tacsidermi yn y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw. Dewch i glywed eu straeon, cerddi a chwedlau; cael cip tu ôl i’r llenni yn y Ganolfan, a chanfod trysorau cudd a rhyfeddodau.

“Gallwch ddisgwyl hiwmor, ffraethineb a dawn dweud dynamig, a straeon sy’n pigo’r cydwybod i gyfeiliant cerddoriaeth amryw o offerynnau traddodiadol Affrica – yr mbira, y marimba a’r djembe.” Society for Storytelling