Cyfres Darlithoedd Canmlwyddiant
Owen Sheers, Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe sy’n curadu a chadeirio’r ddarlith

Mae Istanbul yn borth rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin, ac wedi bod yn brifddinas i’r Ymerodraethau Rhufeinig, Bysantaidd, Lladin ac Otomanaidd. Yn y digwyddiad hwn, bydd yr Athro Bettany Hughes, sy’n awdur, darlledwr a hanesydd o fri, yn ymuno ag Owen Sheers i ddefnyddio’r hanes cyfoethog ac amrywiol hwn i gyflwyno taith ddiddorol a deniadol trwy stori Istanbul sy’n pontio 6,000 o flynyddoedd.