Dewislen
English
Cysylltwch

Anrhegion llenyddol munud-olaf gan Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Maw 17 Rhag 2019 - Gan Literature Wales
Anrhegion llenyddol munud-olaf gan Llenyddiaeth Cymru
Llun: Taz Rahman www.amonochromedream.com

Mae cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd yn gyfle gwych i ymlacio drwy ddarllen llyfr da, a rhannu eich cariad tuag at ddarllen gyda theulu a ffrindiau, neu drwy ddianc oddi wrth y dathliadau am ennyd o lonyddwch. Ar ôl blwyddyn brysur o gynnal prosiectau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru, yma yn Llenyddiaeth Cymru, rydym yn edrych ymlaen at gael toriad er mwyn ennyn mwy o nerth creadigol yn barod am flwyddyn arall o antur i fydoedd ac hanesion Cymru, sy’n ei gwneud hi’n le cyffrous i ddarllen, creu a gorfoleddu llenyddiaeth Cymru.

 

Mae gweithwyr yn swyddfa Caerdydd a Llanystumdwy wedi nodi’r hyn y maent yn dymuno ei gael y Nadolig hwn. Nid yn unig maent yn anrhegion perffaith i’r rhai hynny ohonoch sy’n caru llenyddiaeth a darllen, ond maent hefyd yn anrhegion perffaith i’r rhai ohonoch sy’n frwdfrydig dros gefnogi artistiaid, awduron a busnesau bychain o Gymru.

 

Barddoniaeth yn hytrach na cherdyn – Deg Cerdd o Gymru – £4.95

Yn hytrach nac ysgrifennu cerdyn, beth am anfon geiriau o farddoniaeth? Mae’r deg cerdd yma, sydd yn amrywio o’r seithfed ganrif i’r ganrif hon yn rhoi blas i’r darllenydd o lenyddiaeth hynafol a llenyddiaeth gyfoes. Mae’n cynnwys pamffledyn o farddoniaeth, amlen a nod tudalen gyda gwagle i chi ysgrifennu eich neges bersonol.

https://www.theliterarygiftcompany.com/products/poetry-instead-of-a-card-ten-poems-from-wales

 

Where I’m Coming From gan Anniversary Anthology 2019 – £6.00

Dyma gyfrol sydd wedi’i golygu gan Hanan Issa a Durre Shahwar a’i chyhoeddi gan LUMIN. Ysgrifennwyd y gyfrol wedi i’r ddau sefydlu ‘Where I’m Coming From’ ym mis Awst 2017, sef cyfres o nosweithiau meic agored, yn bennaf ar gyfer hyrwyddo lleisiau unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru.

https://lumin-press.com/WICF-2019

 

Murlun y Tŵr Dŵr – Print – £108

Dyma brint o furlun y tŵr dŵr tu allan i Orsaf Drenau Canol Caerdydd wedi’i ddylunio gan Pete Fowler. Mae’n cyfleu golygfeydd a delweddau o’r Mabinogi.

https://www.literaturewales.org/product/water-tower-mural-print/

 

Bocs Set Iaith y Nefoedd – £30.00

Dyma nofel gan Llwyd Owen a LP 12” gan Yr Ods, sydd wedi’i ysbrydoli gan ei nofel fer, ddystopig ynghyd â phethau eraill a ddaeth o’r cydweithio.

https://www.iaithynefoedd.com/siop/boxset

 

Bag Cofiwch Dryweryn – £6.00

Wedi’i gynllunio gan ddylunydd gwaith celf y Super Furry Animals, Pete Fowler, dyma fag perffaith i gario tuniau o baent coch ac ambell frwsh paent.

https://www.literaturewales.org/product/cofiwch-dryweryn-tote-bag/

 

Ticed i weld Llyfr Glas Nebo – £8 / £10 / £12

Mae Llyfr Glas Nebo yn dilyn stori anhygoel Siôn, ei fam Rowenna a’i chwaer fach, Dwynwen. Mae eu stori wedi’i gofnodi mewn llyfr ysgrifennu glas wrth i’r teulu geisio goroesi damwain niwclear sydd wedi gadael effaith drychinebus ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Enillodd Manon Steffan Ros y Fedal Ryddiaith gyda’r nofel hon yn yr Eisteddfod yn 2019 a’r dair gwobr posib yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn yn 2019.

http://www.franwen.com/en/taithllyfrglasnebo/

 

Tocyn Anrheg Tŷ Newydd – £50

Gall y tocyn anrheg hwn fod yn gyfraniad tuag at gwrs Ysgrifennu Creadigol yn Nhŷ Newydd (gweler Rhaglen Gyrsiau 2020 yma), arhosiad yn Nant, Bwthyn Encil (mwy o wybodaeth yma) neu am gyfle i ddianc i Ogledd Cymru gyda ffrindiau neu deulu.

https://www.literaturewales.org/product/ty-newydd-gift-voucher-50/

 

Tanysgrifiad i Poetry Wales – o £21.99

Dyma’r anrheg berffaith – barddoniaeth, tri argraffiad y flwyddyn o Poetry Wales a’r dewis o’i dderbyn yn ddigidol neu fel copi caled.

https://poetrywales.co.uk/product/subscription/

 

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig – clawr caled £20.00

Dyma waith cyfeiriadol mwyaf uchelgeisiol am Gymru i’w gyhoeddi ers yr 19eg ganrif. O fewn cloriau’r llyfr hwn ceir cofnodion ar yr holl bobl, lleoedd a digwyddiadau sy’n gwneud Cymru mor gyfoethog yn ddiwylliannol, hanesyddol a daearyddol.

https://www.literaturewales.org/product/the-welsh-academy-encyclopaedia-of-wales-hardback/

 

Tanysgrifiad Llyfr i Siop Lyfrau Griffin – o £30.00

Mae pob pecyn yn cynnwys sgwrs gydag arbenigwyr llyfrau o siop Lyfrau Griffin er mwyn trafod dewis y derbynydd o lyfrau.

https://griffinbooks.co.uk/index.php/services/book-subscriptions

 

Print wedi’i fframio o Dŷ Newydd – £25.00

Mae’r print hwn yn gof-rodd i un sydd wedi mynychu cwrs yn Nhŷ Newydd neu fel darlun ar ei ben ei hun.

https://www.literaturewales.org/product/copy-2/

 

Chwyn: Blodeugerdd Barddas o gerddi doniol, deifiol a di-chwaeth – £9.95

Dyma gasgliad o farddoniaeth ddoniol gan amrywiaeth eang o feirdd Cymraeg cyfoes, wedi’u golygu gan ein Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

https://www.barddas.cymru/llyfr/chwyn-blodeugerdd-barddas-o-gerddi-doniol-deifiol-a-di-chwaeth/

 

Cerdyn Cyfarch Brenin Arthur – £2.50

Dyma gerdyn cyfarch wedi’i ddylunio gan y dylunydd byd enwog, Pete Fowler (adnabyddir am ei waith celf i’r Super Furry Animals). Bydd yr elw o’r gwerthiant yn mynd tuag at brosiectau llenyddiaeth Gymraeg, megis y cynllun Rhoi Llwyfan i Awduron a gaiff eu Tangynrychioli.

https://www.literaturewales.org/product/king-arthur-greeting-card/

 

moroedd/dŵr gan Morgan Owen – £5.00

Dyma bamffled gan y bardd ifanc o Ferthyr, Morgan Owen a gyhoeddwyd gan Y Stamp. Enillodd Wobr Farddoniaeth Michael Marks fel rhan o wobr ehangach Iaith Geltaidd gyda’r pamffled hwn.

https://www.ystamp.cymru/product-page/pamffled-moroedd-d%C5%B5r-morgan-owen

 

Cerdyn Post The Lost Words gan Jackie Morris – £12.99

Dyma focs o ugain cerdyn post yn cynnwys gwaith celf a detholiadau o farddoniaeth gan The Lost Words gan Robert Macfarlane a Jackie Morris, cyhoeddwyd gan Hamish Hamilton. Yn ogystal, mae Graffeg wedi rhyddhau cyfieithiad o Geiriau Diflanedig gan Mererid Hopwood yn ddiweddar.

https://www.graffeg.com/product/lost-words-postcard-pack/