Dewislen
English
Cysylltwch

Gan ddefnyddio’r enghreifftiau ysgogol o farddoniaeth, ffuglen, a dramâu a ysgrifennwyd gan awduron Anabl a Byddar, bydd ein gweithdai grŵp ar-lein yn eich gwahodd i ystyried sut y gallwn fod yn fwy cynhwysol a chynrychioliadol wrth ffurfio cymeriadau, safbwyntiau, naratifau, a bydoedd. Trwy drafodaethau, ymarferion ysgrifennu ac awgrymiadau, byddwch yn cael eich annog i edrych ar eich gwaith ysgrifennu o’r newydd. Byddwn yn herio’r ystrydebau, yn ystyried trywyddion newydd, yn ailddyfeisio’n prif gymeriadau, yn ystyried diweddgloeon annisgwyl, ac yn edrych ar adnewyddu’r iaith yn ein gwaith. 

Cynnwys y Cwrs

2024

Sesiwn 1 (6 Tachwedd 2024)

Yn y sesiwn hon byddwn yn cyflwyno ein hunain, ac yn dod i adnabod y grŵp o awduron. 

Bydd cynnwys y sesiwn yn archwilio cynrychiolaeth pobl Fyddar, Anabl a Niwroamrywiol mewn llenyddiaeth. Byddwn yn darllen detholiadau o rai o’r enghreifftiau gorau o farddoniaeth, ffuglen, a dramâu a ysgrifennwyd gan awduron Anabl a Byddar ac yn trafod sut y gallwn ddefnyddio rai o’r technegau a’r syniadau yn ein gwaith ninnau.  

Byddwn yn gosod y sylfaen ar gyfer ailddyfeisio ein prif gymeriadau, archwilio modelau anabledd, a gosod yr her i ni ein hunain i newid ystrydebau, ystyried trywyddion newydd, ac adnewyddu’r iaith yn ein gwaith.  

 

Sesiwn 2 (13 Tachwedd 2024)

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar fonologau. Hyd yn oed os nad monolog neu sgript yw eich gwaith ysgrifennu ar y gweill, bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i ddatblygu eich crefft mewn ysgrifennu o’ch safbwynt chi – neu o safbwynt person cyntaf. 

 

Sesiwn 3 (20 Tachwedd 2024) 

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ffuglen. Yn dibynnu ar waith y grŵp sydd ar y gweill, efallai y byddwn yn penderfynu canolbwyntio ar ysgrifennu i blant a phobl ifanc, ffuglen cyffredinol, neu waith ffeithiol creadigol. Byddwn yn trafod strwythur stori, cymeriadau a deialog. 

 

Sesiwn 4 (27 Tachwedd 2024) 

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar farddoniaeth. Hyd yn oed os nad barddoniaeth yw eich gwaith ar y gweill, bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar y sgil o ysgrifennu’n gryno. Bydd yn cyflwyno technegau a delweddau defnyddiol i’ch gwaith, ac yn dangos sut all barddoniaeth fod yn arf pwerus i ennyn empathi a dealltwriaeth eich darllenwyr. Mi fydd bardd gwadd yn ymuno am y sesiwn hon.  

 

2025

Sesiwn 5 (Wythnos yn dechrau 13 Ionawr 2025. Bydd y cyfranogwyr a’r tiwtor yn cytuno ar amseroedd penodol ar ddechrau’r cwrs.)

Yn dilyn egwyl o chwe wythnos i’ch galluogi i ddatblygu eich gwaith creadigol, bydd pob un ohonoch fel awduron yn derbyn sesiwn un-i-un gyda Kaite i drafod eich prosiectau unigol. Gallwch ddisgwyl adborth manwl ac anogaeth wedi’i deilwra yn ystod y sesiynau hyn ynghyd â chyngor penodol am gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb. 

 

Sesiwn 6 (Mis Mawrth 2025)

Bydd y sesiwn olaf yn ddathliad, ac yn gyfle i bob awdur berfformio darn byr o’u gwaith ysgrifenedig eu hunain i weddill y grŵp.  

Isod ceir fideo yn crynhoi cynnwys y cwrs mewn Iaith Arwyddo Prydeinig.

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol