Yr Academi Gymreig
Meini Prawf Aelodaeth
A. Aelodaeth Lawn
Cynigir Aelodaeth Lawn i unigolion er mwyn cydnabod eu cyfraniad i lenyddiaeth Cymru. Cyn y gellir cynnig Aelodaeth Lawn, mae’n rhaid i’r unigolyn dan sylw fodloni’r meini prawf isod. Rhaid iddi/o fod:
1. â chysylltiad penodol â Chymru neu’r iaith Gymraeg, gan amlaf o ran genedigaeth neu fagwraeth neu yn sgil ymgartrefu yng Nghymru (er na fydd o reidrwydd yn dal i fyw yno).
AC
2. yn awdur dychmygus a chreadigol, gydag o leiaf un llyfr cyhoeddedig neu waith nodedig mewn ffurf ddramatig yn ei h/enw ei hun
NEU
3. wedi cyhoeddi o leiaf un llyfr ym maes llenyddiaeth Gymraeg.
NEU
4. wedi ennill un o’r cystadlaethau canlynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol: y Gadair, y Goron, y Fedal Ryddiaith, neu Wobr Goffa Daniel Owen.
Hyd yn oed os caiff y meini prawf uchod eu bodloni gall Pwyllgor Aelodau’r Academi benderfynu cynnig aelodaeth neu beidio, fel y gwêl yn ddoeth. Gall ansawdd cynnyrch llenyddol a/neu hyd y cyfnod y bu’r unigolyn wrthi’n ysgrifennu neu’n cyfranogi o ddiwylliant llenyddol Cymru hefyd ddylanwadu ar benderfyniad y Pwyllgor.
B. Cymrawd
Gall y Pwyllgor Aelodau gynnig anrhydedd Cymrawd yr Academi i unrhyw Aelod Llawn os yw'r Aelod hwnnw, yn nhyb y Pwyllgor, wedi:
NAILL AI
1. cyrraedd amlygrwydd neilltuol
NEU
2. cyfrannu’n eithriadol i lenyddiaeth dros gyfnod estynedig
C. Aelodaeth Anrhydeddus
Gall y Pwyllgor Aelodau gynnig Aelodaeth Anrhydeddus i unigolion nad ydynt yn awduron. Bydd yn rhaid iddynt fodloni’r meini prawf isod:
1. bod â chysylltiad penodol â Chymru neu’r iaith Gymraeg (fel a nodir yn A.1 uchod);
A
2. bod wedi cyfrannu’n eithriadol i ddiwylliant llenyddol Cymru.


