Yr Academi Gymreig

The Welsh Academy

 

"Yr Academi: rwy wedi hoffi’r ‘i’ hwnnw erioed. Rwy’n gweld Akademia – syniad Mistar Platon, gyntaf: lle i ddod ynghyd i drafod y ‘pethe’, neu’r ‘pethe mowr’ . . . Dewisodd leoliad pleserus – celli olewydd y tu allan i furiau Athen: gofod ar y cyrion a oedd yn ganolbwynt, lle i feddwl nes cael pendro – i arfer annibyniaeth barn – i herio’r nerthoedd sy biau’r byd – i beri i’r lleol droi’n rhyngwladol. Yr Academi GymRoeg. Neu, o’i roi fel arall: mae grym uniongyrchol y ‘Canol’ dros bobl Cymru yn gwanhau; bydd Yr Academi – yn y ddwy iaith – yn chwarae rôl sylfaneol yn y broses o ddychmygu hyd a lled ein gofod newydd . . ."
Damian Walford Davies, Cyn-lywydd y Pwyllgor Aelodau (Adran Gymraeg) 

 

Cyflwyniad

Yr Academi Gymreig yw’r Gymdeithas i Lenorion yng Nghymru. Mae’r gymdeithas yn cynrychioli llenorion Cymru ac ysgrifennu Cymraeg a Chymreig yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r Academi Gymreig yn cynnal safon llenyddiaeth yng Nghymru trwy ddarparu fforwm a llais i ysgrifenwyr. Mae ganddi, felly, y gallu i lobïo, cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ac i ddarparu amryw o wasanaethau. Mae’r gymdeithas hefyd yn dod â llenyddiaeth at garreg drws ei Chefnogwyr (h.y aelodau sydd ddim yn awduron).


Hanes y Gymdeithas

Sefydlwyd y gymdeithas yn 1959 yn dilyn sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams. Prif amcan y gymdeithas yn dilyn y cyfarfod cyntaf ym 1960, oedd sefydlu cylchgrawn llenyddol Cymraeg. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o Taliesin gan Yr Academi Gymreig ym 1961.  Crëwyd yr adran Saesneg ei hiaith yn 1968 o ganlyniad i fenter gan Meic Stephens mewn cydweithrediad â’r Guild of Welsh Writers. Gyda’i nawdd yn bennaf yn dod o ffynonellau cyhoeddus, mae wedi bod yn gyfansoddiadol annibynnol ers 1978.

Yn 1998 ymgymerodd Yr Academi Gymreig â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth i Hybu Llenyddiaeth Genedlaethol Cymru. Bu’r Academi, a oedd bellach wedi newid a thyfu cryn dipyn, yn cynnig arlwyaeth lenyddol ar hyd a lled Cymru hyd nes 2011, nes iddo ymuno â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i greu sefydliad cenedlaethol newydd a elwir Llenyddiaeth Cymru.

Mae hunaniaeth unigryw Yr Academi Gymreig, yn cynnwys ei gwasanaethau a’i gweithgareddau, nawr wedi ei ail-sefydlu dan faner Llenyddiaeth Cymru.


Yr Academi Gymreig Heddiw

Mae gan Yr Academi Gymreig oddeutu 700 Aelod Llawn rhwng dwy adran ieithyddol (Cymraeg a Saesneg). Bobi Jones, un o feirdd mwyaf Cymru sydd hefyd yn awdur ffuglen a beirniad llenyddol yw Llywydd cyfredol yr Adran Gymraeg, a Dannie Abse, y bardd, nofelydd a dramodydd yw Llywydd cyfredol yr adran Saesneg. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Aelodau a Chymrodyr.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymroi i gynnal gwledd o ddigwyddiadau i Aelodau'r Academi drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ysgolion undydd, cynadledda, ciniawau dathliadol a chyfres darlithoedd Gwyn Jones. Mae Taliesin yn dal i ffynnu heddiw dan arweiniad dwy olygyddes ifainc; Sian Melangell Dafydd ac Angharad Elen. Cyhoeddwyr Geiriadur yr Academi gan Wasg Prifysgol Cymru am y tro cyntaf yn 1995 ac bellach mae fersiwn ar-lein. Cyhoeddwyr Gwyddoniadur yr Academi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2008.

Fel rhan o adnewyddu cyfredol Yr Academi Gymreig, mae'r Pwyllgor Aelodau wedi lansio Blog Yr Academi Gymreig. Mae hwn yn rhoi cyfle mawr-ei-angen i awduron Cymru i ddadlau, cyffroi , i fynegi’u barn ac i ysbrydoli – a’r cyfan o gysur eu desgiau sgwennu (neu trwy eu ffônau symudol!)

Mae’r blog yn gaeëdig, felly Aelodau Llawn eraill yn unig sy’n medru gweld y postiadau.

Os ydych yn Aelod Llawn o’r Academi Gymreig ac yn dymuno cael mynediad i’r blog, ebostiwch branwen@llenyddiaethcymru.org os gwelwch yn dda.