Ty Cyfieithu Cymru
Christopher Meredith yn ennill ysgoloriaeth ryngwladol
Nodiadau Jyväskylä: Darllenwch yma fyfyrdodau Christopher Meredith yn Jyväskylä, Y Ffindir.
Mae'r bardd a'r nofelydd Christopher Meredith wedi ennill ysgoloriaeth ryngwladol Tŷ Cyfieithu Cymru / HALMA ar gyfer 2012/2013. Bydd yn treulio dau gyfnod preswyl yn gweithio dramor, gyda chefnogaeth rhwydwaith HALMA o ganolfannau a thai llenyddol - y cyntaf yn y Ffindir ar ddiwedd mis Hydref a'r ail yn Slofenia yn y flwyddyn newydd.
Mae'r ysgoloriaeth yn deillio o aeolodaeth Tŷ Cyfieithu Cymru o HALMA, rhwydwaith sy'n cysylltu ac yn cydlynu 27 o ganolfanau llenyddiaeth a chyfieithu ar draws Ewrop. Byd Christopher yn treulio'r preswyliad cyntaf mewn tŷ art nouveau pren yn Jyväskylä yng ngogledd y Ffindir cyn teithio i Novo Mesto yn Slofenia ym mis Ionawr ar gyfer yr ail breswyliad lle bydd yn cael ei gefnogi gan dŷ cyhoeddi Goga.
Mae Christopher Meredith wedi ennill nifer o wobrau am ei waith, gan gynnwys Gwobr Eric Gregory, Gwobr Awdur Ifanc Cyngor y Celfyddydau a Gwobr Ffuglen am ei nofel gyntaf, Shifts. Cyhoeddwyd ei bedwaredd nofel, The Book of Idiots, eleni gan wasg Seren ac mae wedi cael ei ddewis gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2012.
Cafodd Chris ei eni a'i fagu yn Nhredegar a bu'n weithiwr dur ac athro ysgol cyn dod yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth, pedair nofel ac mae hefyd yn gyfieithydd llenyddol.
Dywed Chris: "Mae ennill ysgoloriaeth HALMA yn anrhydedd mawr, ond yn llawer mwy na hynny mae'n gyfle i mi i ddysgu ac i dyfu fel awdur. Rwyf yn bwriadu gweithio ar farddoniaeth a ffuglen sydd â'u seiliau'n gadarn yn f’ardal, ond hefyd gyda beth bynnag fydd yn codi’n o’m mhrofiadau yn y ddwy wlad."
Mae Christopher yn byw yn Aberhonddu bellach ac un o'i brosiectau diweddar oedd cyfres o gerddi a gomisiynwyd am y mawn sy'n erydu ar y Mynydd Du uwchlaw, hynny fel rhan o arddangosfa Bog-Mawnog. Mae'n gobeithio treulio amser yn datblygu'r gwaith hwn ymhellach ar gyfer cyhoeddi yn ystod ei breswylfeydd tramor.
Wrth siarad ar ran Tŷ Cyfieithu Cymru, dywed Sioned Puw Rowlands: "Mae rhoi cyfle i awduron weithio mewn cyd-destun diwyllianol gwahanol yn gallu bod yn werthfawr iawn. Mae'n gorfodi awdur i edrych ar ei waith mewn ffordd wahanol. Mae preswyliadau i awduron o dramor yng Nghymru a chyfleoedd i awduron Cymru dreulio cyfnodau dramor, yn rhan o weledigaeth Tŷ Cyfieithu Cymru, a gafodd ei sefydlu pan ddaeth Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Newydd ynghyd i ffurfio partneriaeth yn 2009. Mae enillwyr blaenorol yr ysgoloriaeth yn cynnwys Siân Melangell Dafydd a Tristan Hughes. "
Yn ddiweddarach eleni, bydd Tŷ Cyfieithu Cymru yn croesawu bardd o'r Ffindir, Harry Salmenniemi, i Dŷ Newydd, Y Ganolfan 'Ysgrifennu Genedlaethol, hefyd fel rhan o'r rhaglen HALMA.
Cefnogir y rhaglen ysgoloriaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.
Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru
1af - 7fed o Hydref
9 bardd o bedwar ban byd yn ymuno â beirdd o Gymru ar gyfer llu o ddigwyddiadau ym Mangor, Machynlleth, Aberystwyth a'r Wyddgrug.
Angharad Tomos yn fuddugol yn Her Gyfieithu 2012

Mererid Hopwood, Angharad Tomos a Jane Hutt
Y nofelydd Angharad Tomos yw enillydd Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru 2012. Mewn seremoni arbennig ym Mhabell Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Bro Morgannwg 2012 derbyniodd Angharad Ffon y Pencerdd gan y Gweinidog Cyllid a'r Aelod Cynulliad lleol, Jane Hutt. Rhagor o wybodaeth i'w weld yma.
Beirdd o'r India yn Dod â'u Geiriau i Gymru
Mae disgwyl i farddoniaeth o'r India ddod o hyd i lais newydd yng Nghymru mis yma ar ddechrau cydweithrediad unigryw rhwng rhai o feirdd amlyca' Cymru a'r India.
Bydd prosiect Cadwyn Awduron y Cyngor Prydeinig yn dod ag wyth o feirdd - pedwar yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a phedwar mewn amryw o ieithoedd Indiaidd, ar gyfer cynllun cyffrous wedi ei drefnu gan Gyfnewidfa Lên Cymru.
Bydd y beirdd o Gymru - Menna Elfyn, Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Karen Owen - yn treulio wythnos yn cydweithio gyda phedwar bardd o'r India - y bardd adnabyddus o Kerala K. Satchidanandan, y bardd ifanc radical Meena Kandasamy, Sampurna Chattarji sy'n hannu o Bengal ond yn bellach yn byw yn Mumbai a Robin Ngangom - bardd a golygydd o Ogledd Ddwyrain yr India.
Rhwng Mehefin 24ain a 30ain, 2011 bydd y beirdd yn treulio'u hamser yn Nhŷ Newydd, yn gweithio ar gyfeithiadau fydd yn galluogi barddoniaeth Gymraeg i deithio ar draws ffiniau ieithyddol i Bengali, Malayalam, Manipuri a Tamil. Ar yr un pryd bydd y beirdd Cymreig yn cyflwyno cyfoeth o farddoniaeth gyfoes o'r India am y tro cyntaf erioed i gynulleidfa hollol newydd yma yng Nghymru - drwy eu cyfieithu i'r Gymraeg.
Bydd cyfle i'r cyhoedd glywed gan y beirdd yn ystod eu hymweliad mewn digwyddiadau arbennig a gynhelir yn ystod yr wythnos.
Ym Mangor bydd darlleniad gyda'r hwyr yn y Blue Sky Cafe ar nos Sul 26ain o Fehefin pan fydd y beirdd o Gymru a'r India yn perfformio eu gwaith ar y cyd ac yn trafod y broses greadigol o gyfieithu barddoniaeth.
Ar ddydd Mercher, 29ain o Fehefin yn Aberystwyth bydd cyfle i bobl gymeryd rhan mewn swper gyda’r beirdd - bydd perfformiad ar y fwydlen yn osgytal â phryd tri chwrs yn y bwyty nodedig Ultracomida. Y bardd a'r llenor Nigel Jenkins fydd yn cyflwyno'r noson.
Mae'r prosiect hwn yn nodi perthynas newydd sy'n dal i dyfu rhwng llenyddiaeth Cymru a'r India gyda nifer o weithiau cyfoes Cymreig eisoes wedi eu cyfieithu a'u cyhoeddi yn yr India, mewn amryw o ieithoedd - diolch i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gyfnewidfa o sefydlu cysylltiadau rhyngwladol.
Cynhelir y digwyddiad fel rhan o gynllun Cadwyn Awduron y Cyngor Prydeinig ac fe’i drefnir gan Gyfnewidfa Lên Cymru fel rhan o raglen weithgaredd Tŷ Cyfieithu Cymru ar y cyd â Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru gyda chefnogaeth garedig Llywodraeth Cymru a Llenyddiaeth Cymru.
Dywed Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru:
“Mae cynllun Cadwyn Awduron y Cyngor Prydeinig yn meithrin cysylltiadau rhwng y byd llenyddol yn yr India a'r un yng Nghymru. Rydym eisioes wedi cyflawni llawer ac ar fin lansio tair blodeugerdd o straeon byrion Cymreig mewn Tamil, Bengali a Malayalam yn yr Hydref. Mae'r rhan yma o'r prosiect serch hynny yn cynnig cyfle i gynulldeidfa Gymreig ddarganfod y datblygiadau barddonol a'r chwyldroadau llenyddol sy'n digwydd ar hyd a lled yr is-gyfandir Indiaidd.
Rydym hefyd yn parhau i helpu llenorion newydd a phrofiadol gael eu gwaith wedi eu cyfieithu yn yr India - un o'r marchanoedd cyhoeddi sy'n datblygu gyflymaf yn y byd."
Ail-ddarganfod Rwsia
Pushkin, Tolstoi, Dostoiefsci, Tseicoff, Nabokov, Solzhenitsyn – mae Rwsia wedi creu rhai o gewri llenyddol y byd. Ond prin yw’n ymwybyddiaeth ni o lenyddiaeth gyfoes y wlad enfawr hon.
Ym mis Ebrill 2011, mewn patneriaieth a'r Cyngor Prydeinig, daw’r Gyfnewidfa a thri aelod o gymuned lenyddol Moscow i Gymru i geiso ysgogi ysgrifennwyr a darllenwyr Cymru i ail-ddarganfod llenyddiaeth y Rwsia fodern.
Fel rhan o’u hymweliad a Chymru bydd Alecsandra Borisenco, Fictor Soncin a Linor Goralic o Foscow yn cymeryd rhan mewn seminar undydd yn Aberystwyth: Cyflwyno Cymru – Ail-ddarganfod Rwsia.
Mae Linor Goralic yn fardd, awdur plant a newyddiadurwr; mae Alexandra Borisenco a Victor Soncin ill dau yn dysgu cyfieithu llenyddiaeth ym Mhrifysgol Moscow ac yn rhedeg gweithdy cyfieithu amlwg gyda chysylltiadau cryf a’r byd cyhoeddi Rwsieg.
Bydd y llenorion Stevie Davies a Wiliam Owen Roberts o Gymru yno hefyd yn cynrychioli llenyddiaeth Gymreig a Ned Thomas o Sefydliad Mercator fydd yn arwain y seminar.
Rwsia sy’n cael sylw arbennig yn Ffair Lyfrau Llundain eleni. I gefnogi hyn fe benderfynodd y Gyfnewidfa wahodd rhai ffigyrau amlwg o’r byd llenyddol yn Moscow i Gymru.
Mae’r seminar undydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n ran o raglen weithgaredd Tŷ Cyfieithu Cymru, yn cael ei chefnogi gan y Cyngor Prydeinig ac Academia Rossica fel rhan o raglen ddiwylliannol Ffocws Marchnad Rwsia 2011 yn y Ffair.
Ochr yn ochr ag ailgynnau diddordeb mewn llenyddiaeth Rwsia yng Ngymru, y gobaith hefyd yw cyflwyno awduron Cymru i awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr Rwsia.
Bu cyfieithu llenyddol yn elfen bwysig yn y diwylliant Rwsieg o’r cychwyn, a bu llawer o’i llenorion disgleiriaf hefyd yn gyfieithwyr. Cyfieithwyd o ystod eang iawn o ieithoedd gan gynnwys nifer o ieithoedd llai. Yn ystod y seminar bydd testunau a ysgrifenwyd yn Rwsieg, Cymraeg a Saesneg yn cael eu trafod.
I gloi diwrnod o drafod a chyd-ddathlu llenyddol, bydd gwledd yn cael ei chynnal yn mwyty Ultracomida, Aberystwyth, gyda darlleniadau gan yr awdur o’r Wcrain a Rwsia, Linor Goralic, a’r awdur o Gymru Wiliam Owen Roberts.
Am fwy o wybodaeth hefyd gweler gwefan y Cyngor Prydeinig http://www.britishcouncil.org/arts-literature-londonbookfair.htm
Cyhoeddi Enillydd Her Gyfieithu 2010 i'r Saesneg
Cyfieithydd masnachol drodd at lenyddiaeth yn ei hamser sbar yw enillydd Her Gyfieithu 2010 i'r Saesneg a drefnwyd ar y cyd eleni gan Dy Cyfieithu Cymru ag Oxfam Cymru.
Mewn seremoni arbennig yn Nhŷ Newydd, cyhoeddwyd mai Alison Layland o Langynog yn Sir Drefaldwyn fu'n fuddugol yn yr Her eleni.
Yn ystod y seremoni, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn Medi 4, 2010 fel rhan o ddathliadau pen-blwydd 21ain y ganolfan, fe gyflwynwyd Alison gyda Ffon y Pencerdd 2010 gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC.
Roedd hi'n un o drideg chwech aeth ati i drosi darn o stori fer, La folie était venue avec la pluie, o'r Ffrangeg gan awdur o Haiti, Yanick Lahens.
Yn ôl y beirniaid, yr awdur Patrick McGuiness a'r dramodydd Gareth Miles, roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn eleni.
Dywedodd Alison, sy'n gyfieithydd masnachol proffesiynol, ei bod wrth ei bodd ond wedi synnu o fod wedi ennill cystadleuaeth lenyddol er ei bod yn ysgrifennu'n greadigol ei hun. Roedd Haiti fel testun y darn wedi apelio ati a fe'i hysbrydolwyd gan eiriau'r awdur gwreiddiol.
"Fe wyddwn cyn lleied am Yanick Lahens cyn dechrau ar y dasg ond mae ei gwaith yn hyfryd - mae'n ysgrifennu am broblemau Haiti mor uniongyrchol - mae'n creu awyrgylch hyfryd a chymeriadau cryf. Mae cyfieithu llenyddiaeth yn rhoi mynediad i fydoedd a sefyllfaoedd eraill na wn i amdanyn nhw."
Sefydlwyd yr Her Gyfieithu yn 2009 gan Dŷ Cyfieithu Cymru i hyrwyddo a dathlu'r cyfraniad gwerthfawr gan gyfieithwyr i'r gwaith o hyrwyddo llenyddiaeth Cymru dramor.
Dywedodd Cyfarwyddwr Tŷ Newydd, Sally Baker,
"Rydym wrth ein bodd fod Alison wedi ennill yr her eleni. Mae wedi mynychu cyrsiau yma yn Nh? Newydd droeon a mae hi, heb amheuaeth, yn enillydd teilwng dros ben."
Wrth dderbyn y wobr dywedodd Alison y byddai ennill yn ei hannog i ganolbwyntio mwy ar gyfieithu llenyddiaeth yn ei hamser sbar.
Cyhoeddwyd enw enillydd Cymraeg yr her, Marged Haycock, mewn seremoni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010 fis Awst. Roedd gan gystadleuwyr yr opsiwn o gyfieithu o'r Ffrangen gwreiddiol i unai'r Gymraeg neu'r Saeseng.
Fel rhan o'r wobr bydd Alison a Marged yn cael comisiwn i gyfieithu stori Yanick Lahens ar ei hyd - y naill i'r Saesneg a'r llall ir Gymraeg.
Rhowch glic yma i ddarllen cyfieithiad Alison.
Darlithydd Cymraeg yn cipio gwobr Her Gyfieithu 2010
Mewn seremoni arbennig ar faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd fe gyhoeddwyd mai Marged Haycock fu'n fuddugol yn yr Her. Roedd hi'n un o drideg chwech aeth ati i drosi darn o stori fer, La folie était venue avec la pluie, o'r Ffrangeg gan awdur o Haiti, Yanick Lahens.
Cyflwynwyd Marged â Ffon y Pencerdd 2010 gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn ystod y seremoni ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar faes y Brifwyl ar ddydd Iau, Awst 5ed 2010.
Roedd y testun gosod yn gyferbyniad llwyr i waith academaidd Marged Haycock sy'n arbennigo mewn llenyddiaeth Gymreig yr Oesoedd Canol ond fe benderfynodd fynd ati i gystadlu am ei bod â diddordeb byw yn y sefyllfa yn Haiti ac am ei bod yn medru unieithu a'r awdur gwreiddol - Yanick Lahens - sydd yn wraig ac yn academydd fel hithau.
Yr awdur, Patrick McGuiness , a'r dramodydd a'r llenor Gareth Miles oedd beirniaid yr Her ac wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Mr Miles fod safon y gystadleuaeth yn uchel iawn.
"Y cyfieithiad buddugol oedd wedi llwyddo orau i gyfuno cywirdeb ag adlewyrchiad o naws a synhwyrusrwydd y testun gwreiddiol. Cefais flas arbennig ar y stori ac rwy'n gobeithio y ceir cyfieithiad Cymraeg teilwng ohoni maes o law."
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gyfnewidfa, Dr Sioned Puw Rowlands,
"Mae'r ymateb eleni wedi bod yn ardderchog. Roedd y testun yn un heriol ac anarferol a mae'n amlwg fod hynny wedi sbarduno nifer o'r ymgeiswyr. Beth sy'n braf yw dod i wybod am gyfieithwyr talentog na wyddem ni ddim amdanynt o'r blaen. "
Wrth dderbyn y wobr dywedodd Marged Haycock,
"Roedd y testun ddewiswyd ar gyfer yr Her yn ysbrydoledig..Roeddwn yn teimlo ei fod yn werth ei gyfieithu. Hyd yn oed cyn y daeargryn roedd Haiti yn wlad mor dlawd, wedi ei distrywio a mae Yanick Lahens yn llwyddo i gyfleu'r awyrgylch a'r ofn ymhlith rhai yno mor fanwl -mae ei gwaith yn wefreiddiol."
Bydd enillydd Saesneg yr Her yn cael ei gyhoeddi ar Fedi'r 4ydd yn ystod gwyl "21" yn Nhŷ Newydd - gŵyl o ddigwyddiadau llenyddol i ddathlu 21 mlwyddiant Tŷ Newydd.
Fel rhan o'r wobr bydd yr enillwyr yn cael comisiwn i gyfieithu stori Yanick Lahens ar ei hyd.
Rhowch glic yma i weld cyfieithiad Marged.
Her Gyfieithu 2010 Ty Cyfieithu Cymru
Caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi am 11 o’r gloch Ddydd Iau, 5 Awst 2010 ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Y wobr yw comisiwn i gyfieithu'r stori fer yn ei chyfanrwydd, dwy noson yn Nhy Newydd - Ty Cyfieithu Cymru a Ffon Farddol 2010.
Dyma'r darn:
La folie était venue avec la pluie
by Yanick Lahens
Août touchait à sa fin. Mon enfance aussi mais je ne le savais pas encore. Dès le commencement de l'après-midi, les nuages, comme un cortège d'anges maléfiques, avaient obscurci le ciel, aiguisant les colères, réveillant les soifs, les faims et la méchanceté des hommes. Et depuis que le corps de Mervilus avait été trouvé la veille dans une ravine non loin du quartier des Dalles, la folie comme la mort, comme l'enfance arrachée, était venue avec la pluie. Très vite les rues furent inondées par ces averses qui s'abattent toujours en cette saison et nous retournent l'âme comme une terre à labourer sans merci.
Quatre hommes avaient porté sur leurs épaules, en direction de la maison de Désilia, le cadavre de Mervilus recouvert d'un drap blanc. Ils avançaient péniblement comme un tap-tap qui se serait enlisé ou un navire qui tanguerait sous les assauts du vent. Leurs jambes s'enfonçaient dans la boue et ils hurlaient leur colère, la pluie frappait leur torse nu de ses lanières acérées et ils rugissaient encore plus fort. Tenant Jonas, mon jeune frère par la main et courant à en perdre le souffle, je rattrapai ma mère autour de cet équipage fougueux, mêlant ma voix aux gémissements des femmes, à la stridence de leurs cris, aux hurlements des hommes. La nouvelle était arrivée jusqu'à Désilia qui rejoignit le cortège à mi-chemin. Quand l'un des hommes souleva le drap, Désilia poussa le long cri plaintif d'un animal qu'on égorge. Les yeux révulsés, agitant les bras de droite à gauche, elle déchira ses vêtements et courut dans tous les sens, faisant gicler sur son passage l'eau des mares entre les cases. Très vite Boss Charles et Rameau la rattrapèrent de leurs bras robustes. Épuisée, Désilia se laissa encercler et nouer comme une bête en captivité. Aidée d'Espérance et de Nerlande, ma mère entoura ensuite la taille de Désilia, d'un grand mouchoir. Question d'aider la douleur, là dans ses flancs, à faire son temps et son nid comme on porte un enfant.
On installa le corps dans l'une des deux pièces de la case puis, comme le veut la coutume, on recouvrit l'unique miroir d'une pâte d'amidon pour enlever à Mervilus toute envie de surgir de cette surface lisse pour venir troubler le repos et le sommeil des vivants. Espérance s'occupa de la toilette du mort et ma mère entama les préparatifs du bouillon pour la veillée. Zuléma offrit les abats, Nerlande le malanga et les carottes, Conceptia le cresson et les bananes plantain.
La pluie s'apaisa dès les premières ombres. J'aidai ma mère à préparer le repas, à servir le café à ces hommes rustres, ces hommes de désir et de privation qui posaient sur moi leur regard de fièvre comme s'ils cherchaient des pistes de feu. Jonas ne tenait plus en place, la journée avait été longue. Il jouait encore pieds nus dans les flaques d'eau à l'entrée de la maison de Désilia. Et bientôt, me tirant par le bras, il réclama vivement ces images brillantes et dures que, dans la lumière déclinante du jour, je prends plaisir à convoquer pour lui. Rien que pour lui. Et qui à force, étaient devenues comme sacrées. Celles des algues phosphorescentes, des cohortes d'anges et de lutins, des sentiers aux senteurs de goyaves, de blessures tracées dans l'os par la pointe d'un coutelas, d'ogres se rassasiant de chairs d'enfants et de crépuscules mauves.
Après le repas, les hommes se partagèrent trois bouteilles de rhum et d'autres alcools, du trempé d'anis et de cerise et jouèrent aux dominos toute la nuit. Trouant la mélopée dont les femmes, lèvres serrées, âme cousue, enveloppaient la nuit, les hommes évoquèrent à tour de rôle les souvenirs du défunt. Mervilus était parti marauder dans les quartiers du haut de la ville et il n'avait pas eu de chance. Baptiste parla plus que les autres. Baptiste a toujours admiré Mervilus, bien plus jeune que lui, qui possédait une arme et arrivait à faire vivre Désilia et son fils Kesnel mieux que toutes les femmes et tous les enfants du quartier. Sans compter Mimose qui travaille chez un couple de médecins à Péguy-Ville, dans une villa cachée derrière de hauts murs, enfouie sous d'épaisses bougainvillées. Baptiste n'avait jamais osé l'accompagner dans ses tournées. Mais Mervilus savait comment les faire rêver, lui et les autres.
Mervilus militait au parti des Démunis. Des militants du parti étaient venus un après-midi jusqu'à notre quartier dans un grand tumulte de voix. Elles étaient aussi fortes que celles qui éclataient au carnaval ou dans les sermons des Adventistes du Septième Jour. Ce jour-là ma mère et moi revenions à peine du marché. Je la vis poser son panier sur le seuil de la maison et rejoindre, au bout de la rue, le groupe des hommes et des femmes qui discutaient avec animation comme si leur vie en dépendait. Agglutinés contre les deux camionnettes des hommes du parti des Démunis, nous buvions les paroles des orateurs qui nous décrivaient un bonheur d'une rare extravagance, celui que les riches ne nous avaient jamais laissé entrevoir. Les mots puissants, magiques firent fondre en un instant notre épaisse carapace de doutes et de méfiance. Et bientôt l'agitation gagna aussi les enfants. Au son d'une musique nasillarde et frénétique, improvisée pour la circonstance, Jonas et moi nous nous déhanchâmes avec les autres, bien au-delà du départ des militants. La vie avait ce jour-là un goût d'eau fraîche et d'étoiles.
C'était il y a deux ans déjà. Depuis, à en croire Boss Charles, le parti des Démunis était devenu cinq fois plus riche que l'ensemble des partis des Riches. Et puis il y avait la mort de Mervilus qui était venue tout changer.
Er mwyn darllen y stori fer yn ei chyfanrwydd ewch i:
http://www.lehman.cuny.edu/ile.en.ile/paroles/lahens_folie.html
Lansio Her Gyfeithu 2010 yn y Gelli
Bydd Tŷ Cyfieithu Cymru yn lawnsio’i Her Gyfieithu diweddaraf yng Ngŵyl y Gelli 2010.
Caiff y digwyddiad ei gynnal am 11.30 Ddydd Iau 3 Mehefin ar stondin yr Academi sy'n hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru.
Darn o waith llenyddol o Haiti fydd y testun eleni ac fe fydd Ned Thomas o’r Gyfnewidfa Lên yn holi’r awdur gwreiddiol yn ystod y lawnsiad yn y Gelli, sy’n cael ei threfnu ar y cyd ag Oxfam Cymru.
Caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi am 11 o’r gloch Ddydd Iau 5 Awst 2010 ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.
Bydd yr enillydd yn derbyn Ffon Farddol Tŷ Cyfieithu Cymru 2010 yn ogystal â’r cyfle i dreulio amser yn Nhŷ Newydd.
Damian Walford Davies oedd yn fuddugol y llynedd gyda’i gyfieithiad o’r gerdd Slate, Oak, Glass gan y Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke.
Mae Tŷ Newydd a Chyfnewidfa Lên Cymru wedi cyhoeddi manylion ar eu partneriaeth newydd ar gyfer sefydlu Tŷ Cyfieithu Cymru. Mae’r ddau sefydliad llenyddol, blaenllaw wedi dod at ei gilydd i roi hwb pellach i’r gwaith o gyfnewid llenyddiaeth rhwng Cymru a’r byd.
Wedi ei leoli yn Tŷ Newydd, bydd Tŷ Cyfieithu Cymru – Translators’ House Wales mewn partneriaeth â'r Academi a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, yn cynnal cyrsiau ar gyfer cyfieithwyr rhyngwladol sy’n awyddus i gyhoeddi gwaith o Gymru mewn gwahanol ieithoedd..
Bydd cyfnodau preswyl yn cael eu cynnig i awduron tramor a chyfieithwyr llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â hyfforddiant i lenorion sydd am gyfieithu eu gwaith o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Bydd cyfle hefyd i awduron a beirdd o Gymru dreulio cyfnodau dramor drwy rwydwaith rhyngwladol o dai cyfieithu ac ysgrifennu.
Mae partneriaeth arbenigol yn cael ei datblygu gyda rhwydwaith ryngwladol Halma sy’n hyrwyddo cyfnewid llenyddiaeth ar draws Ewrop, yn dilyn cais aelodaeth llwyddiannus gan y Gyfnewidfa Lên a Thŷ Newydd ym mis Rhagfyr 2008.
Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae amcanion a gweithgareddau’r Gyfnewidfa yn cynnwys hyrwyddo llenyddiaeth a llenorion Cymru dramor; cynnig grantiau cyfieithu i gyhoeddwyr; darparu gwybodaeth am awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr; mynychu ffeiriau llyfrau rhyngwladol; cydweithio gyda gwyliau a digwyddiadau tramor, a bod yn rhan o brosiectau llenyddol rhyngwladol.
Preswylfeydd yn Nhŷ Newydd
Mawrth 2010
Awdur o Slofenia Ar Breswyliad yng Nghymru
Bydd yr awdur a’r cyfieithydd Barbara Pogacnik o Slofenia yn cyrraedd Cymru Ddydd Gŵyl Dewi 2010 ar ddechrau preswyliad mis o hyd.
Trefnwyd ei hymweliad drwy HALMA – rhwydwaith Ewropeaidd sy’n cysylltu cyfres o dai cyfieithu ar draws Ewrop gan gynnwys Tŷ Cyfieithu Cymru.
Bydd Barbara Pogacnik yn gweithio ac yn ysgrifennu yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd yn Llanystumdwy.
Bydd cyfle hefyd i’w clwyed yn siarad am ei gwaith mewn digwyddiad arbennig sydd i’w gynnal yn y Borth ger Aberystwyth Nos Fawrth, 9 Mawrth, 2010.
Ganed Barba Pogacnik ym 1973 ac mae ganddi radd mewn ieithyddiaeth a llenyddiaeth y cyfnod rhamantus o Université Catholique de Louvain yng Ngwlad Belg yn ogystal â gradd MA o’r Sorbonne ym Mharis.
Mae’n gyfieithydd, yn draethodydd, yn feirniad llenyddol ac yn fardd, a bu’n gweithio yn Adran Astudiaethau Cyfieithu Prifysgol Ljubljana o 2002-2004.
Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth Poplave (Gorlifiadau) yn 2007 gan un o brif gyhoeddwyr Slofenia, Mladinska knjiga. Cyhoeddwyd ei hail gyfrol o farddoniaeth V mno~ici izgubljeni papir (Dalenni o Bapur ag goll yn y Dorf) yn 2008 – ac mae detholiad o'i cherddi wedi’u cyfieithu i nifer o ieithoedd eraill.
Cyhoeddwyd ei cherddi hefyd yn y rhan fwyaf o gylchgronnau llenyddol Slofenia (e.e. Literatura, Nova Revija) a thramor (e.e. cylchgrawn Cymdeithas Awduron y Ffindir, Kirjailija; cylchgrawn cyfieithu llenyddol Metamorphoses of Amherst, yn Northampton, UDA; cylchgronnau Profemina a Knji~evni yn Belgrad ac adolygiad llenyddol Pannon Tükör yn Hwngari).
Bu Barbara Pogacnik yn gyfrifol am olygu a chyfieithu i’r Ffrangeg flodeugerdd o waith tair o feirdd benywaidd Slofenia Llais y Corff (2005) a bu’n cyd-olygu sawl cyfres Litterae slovenicae (2004-2006). Mae’n aelod o fwrdd golygyddol cylchgrawn llenyddol Literatura. Hi hefyd yw rheolwr yr ŵyl ryngwladol ar gyfer cyfieithu barddoniaet - Sinji krog.
Mae ei chyfieithiadau i Slofeneg yn cynnwys gwatih gan awduron megis Maurice Blanchot, Oscar V. de L. MiBosz, Paul Ricoeur, Roland Barthes a Jacques Lacan ynghyd â gwaith awudron cyfoes o Wlad Belg a Chanada.
Chwefror 2010
Awdur o'r Almaen yng Nghymru
Bydd Tŷ Cyfieithu Cymru yn croesawu awdur o’r Almaen i Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd ym mis Chwefror 2010.
Bydd Mareike Krügel yn treulio mis yng Nghymru ac yn ystod ei chyfnod preswyl, bydd yn cydweithio gyda’r bardd Mererid Puw Davies ar gyfieithu rhan o'i gwaith.
Ganwyd Krügel yn Keil ym 1977 a bu’n astudio yn Sefydliad Astudiaethau Llenyddiaeth yr Almaen yn Leipzig.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Die Witwe, der Lehrer, das Meer (Y Weddw, yr Athro, y Môr) yn 2003.
Am ei hail nofel Die Tochter meines Vaters (Merch fy nhad), fe dderbyniodd wobr dinas Hamburg ar gyfer yr awdur ifanc mwyaf addawol ac yn 2006, fe enillodd wobr Friedrich-Hebbel.
Yn briod gydag un plentyn, mae bellach yn byw ac yn gweithio yn nhref Ulsnis yng ngogledd yr Almaen.
Dyma'r ail awdur preswyl i'w groesawu i Gymru gan y Tŷ Cyfieithu. Fe dreuliodd y bardd Daneg Morten Søkilde fis yma ddiwedd 2009.
Llun: Mareike Krügel, © Peter Peitsch
Tachwedd/Rhagfyr 2009
Gweithdai Cyfieithu ar gyfer Cyfieithwyr o India
Mae’r gwaith o gyhoeddi tair cyfrol am lenyddiaeth Cymru mewn tair o ieithoedd India wedi cychwyn yn dilyn gweithdy 5 diwrnod a gyhaliwyd yn Nhŷ Newydd ddiwedd 2009
Bydd disgwyl i’r cyfrolau ymddangos mewn Bengali Malayalam and Tamil yn 2011 ac a fydd yn cynnwys detholiad o’r gorau o farddoniaeth a rhyddiaith cyfoes Cymru.
Dan arweiniad Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Len Cymru, ac Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, roedd y gweithdy 5-niwrnod yn canolbwyntio ar gyfieithu llenyddiaeth Cymru ar gyfer marchnad India.
Dros gyfnod o bum niwrnod, bu awduron o Gymru yn gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr Bengali, Malayalam a Tamil.
“Hwn oedd y gweithdy cyntaf o’i fath i’w gynnal gan Dŷ Cyfieithu Cymru ac roedd gweithio gyda thair diwylliant wahanol a thair iaith yn ogystal â Chymraeg a Saesneg yn dipyn o her. Ond fe gafwyd cydweithio ardderchog ac roedd yn brofiad buddiol iawn i’r cynrychiolwyr o India a Chymru fel ei gilydd,” meddai Sioned Puw Rowlands.
“Mae’r cyfieithwyr bellach wedi dychwelyd i India ac yn ystod 2010, byddan nhw’n gweithio ar gyfrolau arbennig yn cyflwyno llenyddiaeth Cymru i gynulleidfaoedd India. Bydd y cyfrolau yn cael eu cyhoeddi mewn tair iaith - Bengali, Malayalam a Tamil. O ganlyniad, bydd gan ysgrifenwyr o Gymru lwyfan newydd ar gyfer eu gwaith.”
Cefnogwyd y prosiect gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau, y Cyngor Prydeinig, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Academi.
Tachwedd 2009
Tŷ Cyfieithu Cymru yn Croesawu Bardd Daneg
Croesawodd Tŷ Cyfieithu Cymru ei awdur preswyl cyntaf fis Tachwedd 2009.
Treuliodd y bardd Daneg Morten Søkilde fis yng Nghymru yn preswylio yn Nhŷ Newydd. Yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd ar gyfieithiadau o'i waith i'r Saesneg gyda'r bardd, John Barnie.
Mae gan Søkilde ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng llenyddiaeth a'r celfyddydau gweledol.
Yn 2009, cyhoeddwyd cerdd epig yn rhan o gyfres o ddeg o lyfrau gan ddeg o feirdd gan y wasg Knuth Beckers Håndtryk.
Mae Søkilde hefyd wedi bod yn gweithio yn y cyfryngau. Yn 2007 a 2008 roedd yn un o westai a chyflwynwyr cyson y rhaglen fyw ar ddiwylliant, DEN 11.TIME, DR2. Mae'n byw yn Copenhagen.



