Twristiaeth Lenyddol
Cyflwyniad
Mae Llenyddiaeth Cymru yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrosiectau twristiaeth lenyddol yng Nghymru. Ein bwriad yw annog pobl i ymwneud â threftadaeth lenyddol tirlun Cymru mewn amryw o ddulliau, drwy arwain ymwelwyr i grombil y tirweddau sydd wedi ysbrydoli ysgrifenwyr Cymru. Mae llawer o’n gwaith mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol eraill fel Cadw, Croeso Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ers 2008, mae Llenyddiaeth Cymru wedi cynnal rhaglen flynyddol o deithiau llenyddol ar hyd a lled Cymru. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar brofiadau untro, dringo, trotian, cerdded, mynydda, beicio, hwylio, padlo a rhwyfo trwy Gymru lenyddol. Rydym yn gweinyddu sawl prosiect llenyddol arall hefyd, yn cynnwys y wefan blaciau, sy’n darparu gwybodaeth am yr holl blaciau llenyddol y gwyddys amdanynt yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y tabiau ar y chwith.
*Newydd ar gyfer 2013*
Mae teithiau llenyddol 2013 yn argoeli i fynd ymhellach, yn gyflymach ac i fod hyd yn oed yn fwy cyffrous na 2012. Cyhoeddir y manylion yma yng nghanol Mawrth.
Os hoffech dderbyn rhaglen drwy’r post cyn gynted ag y bydd wedi’i argraffu, e-bostiwch post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch 029 2047 2266. Gallwch brynu tocynnau rhodd nawr – cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.



