Cynlluniau Digido LlGC

Ymatebion Cylchgronau Cymru

BARDDAS

Annwyl Peter,

Diolch am eich neges e-bost ynghylch y bwriad gan y Llyfrgell Genedlaethol i roi cylchgronau Cymru ar y we.  Oedais cyn ateb oherwydd roedd cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Barddas yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, a chyflwynais fyrdwn eich llythyr gerbron y swyddogion.  Roedd y Gymdeithas Gerdd Dafod eisoes wedi penderfynu y câi’r Llyfrgell roi’r cylchgrawn Barddas ar y we, ond hyd at bum mlynedd yn ôl bob tro.  Hefyd, gan fod cyfranwyr Barddas eisoes wedi cael eu talu am eu cyfraniad i’r cylchgrawn, penderfynodd y Pwyllgor na fyddai’r Gymdeithas ei hun yn hawlio unrhyw dâl am ddefnyddio gwaith a gyhoeddwyd yn Barddas, ond bod angen i unrhyw un a ddymunai ddefnyddio gwaith a gyhoeddwyd ynddo gysylltu â’r awdur i gael caniatâd ac i drafod telerau.
Hyn oedd penderfyniad y Pwyllgor.

Cofion a diolch,

Alan