Cynlluniau Digido LlGC
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Academi eleni (2007) penderfynodd Aelodau Yr Academi Gymreig y dylai Academi ysgrifennu’r llythyrau canlynol:
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Annwyl Andrew Green
Mae aelodau Academi wedi gofyn imi ysgrifennu atoch ynghylch prosiect Cylchgronau Cymru’r Llyfrgell Genedlaethol. Mewn cyfarfod yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf mynegodd aelodau Academi bryder ynghylch y cynigion presennol. Pasiwyd dau gynnig, fel a ganlyn:
Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hwn yn croesawu mewn egwyddor brosiect y Llyfrgell Genedlaethol i ddigido cyfnodolion Cymru. Mae gennym, fodd bynnag, bryderon ynghylch sawl mater. Cynigiwn y dylai’r Llyfrgell Genedlaethol gymryd pob cyfrifoldeb dros geisio caniatâd awduron/deiliaid hawliau er mwyn digido eu gwaith. At hynny, ni ddylid digido gwaith oni fo deiliad yr hawliau wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig diamwys i ddigido yn y cynllun hwn, h.y. dylai’r prosiect weithio ar sail dewis ymuno yn hytrach na dewis eithrio.
Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gresynu i fater taliadau i awduron am ddefnyddio deunydd hawlfraint ym mhrosiect Cylchgronau Cymru gael ei esgeuluso ac mae’n dymuno gweld trefn daliadau’n cael ei chyflwyno ar unwaith.
Gofynnwyd imi hefyd ddwyn y cynigion hyn i sylw cyfnodolion Cymru.
Tybed a allwn i gael eich ymateb? Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.
Yn gywir
Peter Finch
Prif Weithredwr: Academi (2007)
Rydym eisoes wedi derbyn ymateb gan Andrew Green, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darllenwch ei lythyr yma.
- Cylchgronau Cymru
Annwyl Olygydd
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Academi, a gynhaliwyd yn Aberystwyth y mis hwn, mynegwyd cryn bryder ynghylch cynigion y Llyfrgell Genedlaethol i ddigido cynnwys cyfnodolion Cymru ac i wneud hynny heb dalu i’r awduron dan sylw. Anfonwyd y llythyr cyplysedig at Andrew Green y Llyfrgellydd Cenedlaethol.
Mae’r aelodau - ac mae Academi yn cynrychioli bron pob awdur o bwys sy’n dod o Gymru neu’n gweithio yng Nghymru - wedi gofyn i mi bwyso arnoch i beidio â llofnodi i gytuno i ddigido hyd nes y bydd y mater hwn wedi ei ddatrys. Os ydych eisoes wedi llofnodi gofynnwn i chi ysgrifennu at y Llyfrgell Genedlaethol i fynegi eich pryder.
Mae gan Academi wefan sy’n rhoi manylion am y datblygiadau a’r dadleuon sy’n ymwneud â’r mater hwn. Byddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb.
Yn gywir
Peter Finch
Prif Weithredwr: Academi (2007)
Darllenwch ymatebion y Cylchgronau yma.


