Cynlluniau Digido LlGC

Pleidlais Awduron

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Yr Academi ym mis Medi, bu’ Aelodau’ Yr Academi Gymreig yn unfryd eu cefnogaeth i egwyddor talu i awduron ac yn gresynu at y diffyg ymgynghori ag awduron gan y Llyfrgell. Cynigwyd dau gynnig fel a ganlyn:

Y Cynnig Cyntaf

"Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn croesawu mewn egwyddor brosiect LlGC i ddigido cyfnodolion Cymru. Mae gennym, fodd bynnag, bryderon difrifol ynghylch sawl mater. Cynigiwn y dylai’r Llyfrgell Genedlaethol gymryd cyfrifoldeb llawn am geisio caniatâd gan awduron/deiliaid hawliau i gael digido eu gwaith. Ymhellach, ni ddylid digido oni fo deiliad yr hawliau wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig diamwys i ddigido yn y cynllun hwn, h.y. dylai’r prosiect weithio ar sail dewis ymuno ag ef yn hytrach na dewis eithrio ohono."

Yr Ail Gynnig

"Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hwn yn gresynu at y ffaith i fater talu i awduron am ddefnyddio deunydd hawlfraint gael ei esgeuluso ym mhrosiect Cylchgronau Cymru LlGC, ac mae’n dymuno gweld cyflwyno system daliadau ar unwaith."

Pasiwyd y ddau gynnig yn unfrydol.

2007