Cynlluniau Digido LlGC

Sylwadau

Isod ceir detholiad o sylwadau a dderbyniodd Yr Academi Gymreig yn ymateb i’r ddadl yn ymwneud â hawlfraint a digido cylchgronau llenyddol.

Dafydd Iwan:

Dylai’r dewis gael ei roi i’r awdur a fyddai’n dymuno hepgor y tâl ai peidio, ond dylai’r cynnig fod yno. Yn bersonol, mi fyddwn yn hepgor tâl yn y cyswllt hwn.

Ar fater cysylltiol, yr hyn sy’n fy rhyfeddu yw fod Gwasg yn dal i ofyn am gyfraniadau i gyfrolau cyfansawdd, gan gynnig copi o’r llyfr yn unig fel tâl. Fyddwn i byth yn gwneud hynny gyda recordiad cyfansawdd, er nad oes cymorthdal tuag at gyhoeddi.

Dr Ceridwen Lloyd-Morgan:

Beth sy’n digwydd lle mae awdur eisoes wedi dod i gytundeb gyda chwmni masnachol i ddigido darn o waith, h.y. erthygl yn un o’r cylchgronau dan sylw?

Alan Llwyd (Hydref 2007):

Roedd cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Barddas yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, a chyflwynais fyrdwn eich llythyr gerbron y swyddogion. Roedd y Gymdeithas Gerdd Dafod eisoes wedi penderfynu y câi’r Llyfrgell roi’r cylchgrawn Barddas ar y we, ond hyd at bum mlynedd yn ôl bob tro. Hefyd, gan fod cyfranwyr Barddas eisoes wedi cael eu talu am eu cyfraniad i’r cylchgrawn, penderfynodd y Pwyllgor na fyddai’r Gymdeithas ei hun yn hawlio unrhyw dâl am ddefnyddio gwaith a gyhoeddwyd yn Barddas, ond bod angen i unrhyw un a ddymunai ddefnyddio gwaith a gyhoeddwyd ynddo gysylltu â’r awdur i gael caniatâd ac i drafod telerau.
Hyn oedd penderfyniad y Pwyllgor.