Swyddogion


Lleucu SiencynPrif Weithredwr: Lleucu Siencyn
Yn wreiddiol o Dalgarreg, Sir Aberteifi. Graddiodd o’r Coleg Newydd, Rhydychen gydag anrhydedd yn Saesneg. Wedi treulio cyfnodau’n crwydro cyfandir De America, bu’n gweithio fel ymchwilydd a sgriptiwr gyda chwmnïau teledu Cymraeg. Cyn ymuno â Llenyddiaeth Cymru, roedd hi’n Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Elinor RobsonDirprwy Brif Weithredwr: Elinor Robson
Yn wreiddiol o Landysul, Ceredigion.  Graddiodd yn y Ffrangeg o Brifysgol Sussex, Brighton, a threuliodd flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Toulouse le Mirail, Ffrainc.  Ennillodd MA mewn Llenyddiaeth Ewropeaidd o Brifysgol Caerdydd.  Wedi gweithio i’r Cynulliad ac fel Cynorthwy-ydd Llyfrgell ym Mhrifysgol Caerdydd, ymunodd â Llenyddiaeth Cymru yn 2004.

Hollie AldridgeRheolwr Digwyddiadau: Hollie Aldridge
Gogleddwraig yw Hollie – o Wigan yn Swydd Gaerhirfryn. Cafodd ei denu gan y môr i fae Ceredigion ac aeth i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth, gan raddio yn 2005.  Yna symudodd i Gaerdydd i astudio cwrs ôl-radd mewn Rheoli’r Celfyddydau yn y Coleg Cerdd a Drama. Ymunodd â Llenyddiaeth Cymru yn Ebrill 2006.

Elena SchmitzRheolwr Cynlluniau a Data: Elena Schmitz
Yn wreiddiol o Osnabrueck, Gogledd yr Almaen, daeth Elena i Gaerdydd yn 2004 fel rhan o’i chwrs gradd ‘Master In British Studies’ ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Cyn hyn derbyniodd MA mewn Ieithyddiaeth Saesneg/Astudiaethau Llenyddiaeth a Chyfathrebu gan Brifysgol Essen ac mae wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau celfyddydol yng Nghaerdydd, gan gynnwys Cymru yn Biennale Celf Fenis a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Hi oedd Swyddog y Celfyddydau Gweledol yn Chapter am ddwy flynedd cyn ymuno â Llenyddiaeth Cymru yn mis Rhagfyr 2008.

Petra BennettSwyddog Llenyddiaeth: Petra Bennett
Fe’i ganwyd ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n mwynhau teithio, yn enwedig i Ferlin, wrth ei bodd yn siarad Almaeneg ac yn ddarllenwraig frwd. Mae wrth ei bodd yn mynd i’r opera.

Bronwen PriceSwyddog Datblygu Prosiectau: Bronwen Price
Cafodd Bronwen ei magu yng Ngwlad yr Haf, ond mae teulu ei thad yn hanu o Gaerdydd. Enillodd radd mewn Archaeoleg ac Anthropoleg o Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt, yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio MA mewn Cynhanes Ewropeaidd. Ar ôl dysgu Lefel A am ychydig flynyddoedd, dychwelodd i Gaerdydd i astudio ar gyfer PhD mewn Oes Neolithig hwyr ac Efydd cynnar yng ngorllewin Prydain, gan basio yn 2010 heb dim cywiriadau. Fe’i cyhoeddir am y tro cyntaf yn y gyfrol Prehistoric Journeys (Oxbox, 2007).

Mary CassarSwyddog Cyfrifon: Mary Cassar 
Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghaerdydd. Wedi dros degawd yn gweithio gydag amryw gwmnïau cyfrifion, dychwelodd i addysg llawn amser i ennill gradd mewn Astudiaethau Busnes. Parhaoedd gyda’i haddysg, gan gwblhau cwrs Cymdeithas Technegwyr Cyfrifion (Association of Accounting Technicians) yn 2005 ac ennill ymaelodaeth gymrodoriaeth yn 2010. Mae gan Mary tri degawd o brofiad gyda cyfrifon o gyfnodau mewn sefydliadau cyhoeddus a breifat. Mae Mary yn siarad Groeg rhugl ac yn dysgu'r Gymraeg.
Swyddog Cymorth Busnes: Ifan Brychan
Yn hanu o Aberystwyth yn wreiddiol symudodd Ifan i Gaerdydd yn 1992. Dychwelodd i Addysg Uwch yn 1996 gan dderbyn gradd Athroniaeth ac Athroniaeth Gwleidyddol gan Prifysgol Sussex yn 2000. Wedi cyfnod o deithio ar draws India, bu'n gweithio fel cydlynydd polisi i Blaid Cymru ac yna fel rheolwr cleient i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Gweithiodd yn llawrydd yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector a’u gwaith polisi allanol yn 2010 a 2011 cyn ymuno â Llenyddiaeth Cymru ym mis Gorffennaf 2011 i gydlynu’r broses o’i sefydlu fel cwmni ac fel elusen.
 
Gwen Lasarus JamesHyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: Gwen Lasarus James
Daw Gwen Lasarus yn wreiddiol o Lanfairpwll. Ei dewis cyntaf o yrfa oedd actio, a bu’n gweithio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac ar gyfresi teledu S4C. Bu ysgrifennu yn rhan o’i bywyd o oedran cynnar, a dros y blynyddoedd llwyddodd i ysgrifennu sawl darn ar gyfer y llwyfan, ambell sgript deledu a cherdd neu ddwy. Bu’n teithio â sioe o’i cherddi Pan ga’i Funud gyda Llio Silyn yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn haf 2001 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i bobl ifainc, Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa), ac yn 2004 cyhoeddwyd dilyniant iddi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa).

Louise RichardsSwyddog Datblygu Llenyddiaeth y Cymoedd: Louise Richards
Ganed yn Windsor, ond symudodd at ei theulu yng Nghymru yn 1995.  Wedi cwblhau gradd mewn Dylunio Graffeg a Darlunio yng Ngholeg Celf Exeter a gradd TAR mewn Addysg Ôl-Orfodol, dechreuodd ar yrfa foddhaus gyda llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd ac â Datbygiad Llenyddiaeth a’r Celfyddydau.  Ymunodd â Llenyddiaeth Cymru yn 2007.

Sioned Mair JonesSwyddog Maes Gogledd Cymru: Sioned Mair Jones
Graddiodd Sioned mewn Cymraeg o Brifysgol Aberystwyth cyn symud i Gaerdydd i wethio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ac yna symud yn ôl i'w chynefin i weithio efo Llenyddiaeth Cymru yn y Gogledd. Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth a barddoniaeth.

Sarah EdmondsSwyddog Cynorthwyo Prosiect: Sarah Edmonds
Wedi ei magu ar fferm yn ymyl Mynwy, symudodd Sarah i Gaerdydd yn 2004 i astudio Llenyddiaeth Saesneg a Beirniadaeth Ddiwylliannol. Ers graddio, mae hi wedi gweithio yn llyfrgell Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, wedi cynnal gweithdai cymunedol ac wedi trefnu marchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer y cyhoeddwyr Leaf Books. Ynghyd â llenyddiaeth mae hanesion gwerin, seiclo a dysgu crefftau newydd yn ei hymddiddori. Ymunodd Sarah â Llenyddiaeth Cymru ym mis Mai 2010.

Catrin DaviesSwyddog Gweinyddol a Chynlluniau: Catrin Davies
O Dregaron, Ceredigion yn wreiddiol. Graddiodd yn y Celfyddyd Gain o Brifysgol Kingston. Symudodd i Gaerdydd ar ddechrau 2010, gan weithio fel tywysydd yn arddangosfa’r Artes Mundi cyn ymuno â Llenyddiaeth Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn.

altSwyddog Llenyddiaeth: Casia Wiliam
Mae cartref Casia ym Mhen Llŷn. Graddiodd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2009 cyn symud i weithio i gwmni cyfieithu Testun yng Nghaerdydd. Prif ddiddordebau Casia yw ysgrifennu a darllen, seiclo, teithio a cherddoriaeth. Ymunodd â Llenyddiaeth Cymru ym mis Ionawr, 2011.

Cynorthwy-ydd Personol i'r Prif Weithredwr: Georgia Ruth Williams
O Aberystwyth yn wreiddiol, enillodd Georgia Ruth radd mewn Saesneg Llen o Brifysgol Caergrawnt (Newnham College). Fel cerddor mae hi wedi perfformio yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd, ac mae i'w chlywed yn aml yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth gyda'r hwyr ar BBC Radio Cymru. Ymunodd Georgia Ruth â Llenyddiaeth Cymru yn 2011.

Swyddog Plant a Phobl Ifainc: Leusa Fflur Llewelyn
Daw Leusa’n wreiddiol o Lanuwchllyn, ac ymunodd â Llenyddiaeth Cymru yn 2011 ar ôl dychwelyd o grwydro De a Chanolbarth America. Enilliodd radd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth yn 2008, ac aeth yn ei blaen i ennill M.Phil am ei thraethawd ar fywyd a gwaith T.Ifor Rees. Mae nofel gyntaf Leusa i blant, Pen yr Enfys¸ wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa (2011).

Swyddog Cymorth Cyfrifon: Emma Willmott
Ymunodd Emma â Llenyddiaeth Cymru yn 2011. Yn wreiddiol o Donypandy yng Nghymoedd y Rhondda, graddiodd Emma o Goleg Cymunedol Tonypandy lle bu'n studio Mathemateg a Seicoleg.