Sut i gyrraedd Ty Newydd

Cyrraedd Ty Newydd

Mae Ty Newydd wedi ei leoli ar gyrion pentref Llanystumdwy, yn Eifonydd.
 


Map Mwy

 

Cyfarwyddiadau

Am gyfarwyddiadau cynhwysfawr ar sut i gyrraedd Ty Newydd dyma ddolenni i amryw o wefannau perthnasol:


Yn y car : www.multimap.com

Gyda thrên: 
•Mae trên yr arfordir, Rheilffordd y Cambrian Coast (cyswllt â'r Amwythig) yn dod i Gricieth, sydd ond 2 filltir o Lanystumdwy. Mae'r daith ar hyd arfordir Ardudwy, o Fachynlleth i Cricieth, yn ôl llawer yn un o'r teithiau trên harddaf yn y byd i gyd.

• Trenau o'r Amwythig (gyda chyswllt â Machynlleth neu Dovey Junction) Birmingham a Wolverhampton. Intercity i Fangor (Euston/Llundain i Gaergybi) sydd tua 25 milltir o Lanystumdwy.

Cliciwch yma i gael amseroedd trenau.

Sylwer: Gallwn drefnu i ddod i'ch nôl o Borthmadog neu o Gricieth. Hefyd, rydym yn codi pobl o orsaf drenau Bangor ond oherwydd y pellter codir swm bychan am y gwasanaeth (Dylech drefnu hyn o leiaf 3 wythnos cyn cychwyn eich cwrs)

Awyren:
2 awr i ffwrdd mewn car yn unig yw Maes Awyr John Lennon Lerpwl a Maes Awyr Manceinion.

Ar y bws:
Mae bysus Arriva yn teithio drwy Lanystumdwy yn rheolaidd. Cliciwch yma yma i gael amserlen.