Rhestr Awduron Cymru

WILLIAMS, J. RICHARD

J. Richard Williams, Gwernyfed, D l Werdd, LLANGEFNI, Ynys Môn. LL77 7NU
Ffon: 01248 723819
E-bost: gwernyfed@tiscali.co.uk

Ganed yn Rhosgoch, Ynys Môn, ac addysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a'r Coleg Normal, Bangor. Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn 2009 a 2011 a chadair Eisteddfod Heneiddio'n Dda Ynys Môn 2010.

Ers ymddeol, mae Richard wedi treulio llawer o'i amser yn annerch a darlithio i wahanol fudiadau a chymdeithasau ar agweddau o hanes Ynys Môn. Ei gobaith yw fod hyn yn fodd o gadw cyfoeth hanesyddol yr ynys yn fyw i'r dyfodol. 
 

Detholiad o Gyhoedddiadau:
Deugain Mlynedd o Droedio'r Byrddau: Hanes Theatr Fach, Llangefni
Cwrs y Cefnor: Llyfr y Capten, Môr o Wybodaeth, Iaith, Tywydd a Choelion (Canolfan Astudiaethau Iaith, 1994)
O Fôn i Van Diemen's Land (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Melinau Môn (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
Mynydd Parys: Lle Bendith? Lle Melltith Môn (Gwasg Carreg Gwalch, 2011)
Sentenced to Hell (Llygad Gwalch Cyf., 2011)

 

…….........

 

Pynciau a gynigir sy n gymwys dan y cynllun:

1. Darllen / trafod gwaith.

2. Troseddu a Thrawsgludo i Awstralia yn y 18fed a r 19eg ganrif:

Hanes Anne Williams o Lanfechell, Môn. Manylu ar droseddwyr o ardaloedd penodol.

3. Gwaith Copr Mynydd Parys: Y Copar Ladis a Mwyn Wyr y Mynydd + Ymwelwyr i'r mynydd.

Y Diwydiant Copr yng Nghymru.

4. Agweddau ar fywyd a gwaith Morrisiaid Môn.

5. Cerdded Arfordir Môn: canolbwyntio ar wahanol ardaloedd.

6. Hanes Cyngar Sant a'i eglwys.

 


Oedran y Gynulleidfa: Oedolion.

Siarad/ Trafod yn dwyieithog.
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z