Rhestr Awduron Cymru

JENKINS, DAFYDD

Mae’r Athro Emeritws, Dafydd Jenkins yn feirniad ac hanesydd cyfreithiol. Ganed yn 1911 yn Llundain i rieni o Geredigion, mynychodd Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt ac fe alwyd i’r Bar yn 1934. Gweithiodd fel bar gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ac yn 1938 bu’n rhan o’r ymgyrch i gael statws i’r Gymraeg o fewn y llysoedd barn. Dros ei oes mae wedi bod yn aelod ac yn gadeirydd o sawl corff er hyrwyddo amaethyddiaeth a’r Gymraeg. Bu’n gyfrifol am sefydlu a chyd-olygu’r cylchgrawn Heddiw gydag Aneirin Talfan Davies o 1936 ymlaen. Ers 1965 bu’n ddarlithydd yn Adran y Gyfraith, Aberystwyth gan ddal cadair Hanes Cyfraith a Chyfraith Cymru o 1975-78 hyd at ei ymddeoliad. Mae bellach yn byw yng nghartre’r henoed, Pennal View ger Blaenpennal, Tregaron.

Ymysg ei amryw o gyhoeddiadau ceir sawl gwaith pwysig ar y cyfreithiau Cymreig, gan gynnwys; Cyfraith Hywel (Llandysul, 1970), Celtic Law Papers (Brwsel, 1973), a The Law of Hywel Dda: law texts from Medieval Wales (Llandysul, 1986). Cyhoeddodd hefyd dau lyfr taith Gymraeg, Ar Wib yn Nenmarc ac Ar Wib yn Sweden, yn ogystal â llyfryn enwog Tân yn Llŷn (Aberystwyth, 1937).

Mae ef yn Gymrawd yr Academi Gymreig
 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z