Rhestr Awduron Cymru
GRIFFITH, EURON
Ymchwilydd teledu, awdur sgestsys ac aelod o grŵp canu gwlad The Soda Men. Ganwyd Euron Griffith ym Mangor, ac erbyn heddiw mae e'n byw ym Mhontcanna, Caerdydd. Cyhoeddodd erthyglau a storïau yn Saesneg, a bu'n cyflwyno ar raglenni megis Heno, Pacio, See You Sunday ac ar raglenni Radio Cymru a Radio Wales.Cafodd ran yn y ffilm Mr Nice (sy'n darlunio bywyd Howard Marks), ac mae ei waith celf wedi ei arddangos yn y Walker Gallery yn Lerpwl. Bellach, mae'n gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun. Mae ei farddoniaeth wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau megis Poetry Wales, a'i straeon fer yn Sing Sorrow Sorrow (Seren) ac In My Life: Encounters With the Beatles (lle cafodd ei stori - 'The Beatles in Tonypandy' - ei ddarlunio gan Sir Peter Blake, a fu'n gyfrifol am ddylunio clawr Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band). Cyhoeddodd Euron ei nofel gyntaf, Dyn Pob Un (Y Lolfa), yn 2011
Cyhoeddiad:
Dyn Pob Un (Y Lolfa, 2011)
Cyhoeddiadau Eraill:
In My Life: Encounters With the Beatles (gol. Cording; Jankowski-Smith; Laino) (Fromm International, 1998)
Sing, Sorrow, Sorrow - Dark and Chilling Tales (gol. Gwen Davies) (Seren, 2010)
Adolygiadau:
"Mae hiwmor ar ei ora pan mae'n seiliedig ar realiti - dyma lle mae Euron Griffith yn rhagori."
Rhys Mwyn yn trafod Dyn Pob Un
"Does dim llawer o sgrifenwyr doniol yn y Gymraeg ond dyma un - mae'n siarp fel raser ac yn sur fel lemwn."
Jon Gower yn trafod Dyn Pob Un
"ANHYGOEL. Yn argymell i bawb ei ddarllen. Fydd yn siŵr ar silff fy nosbarthiadau Cymraeg"
Glyn Wise yn trafod Dyn Pob Un
Dyn Pob Un (Y Lolfa, 2011)
Dewch am daith gyffrous gydag Irfon Thomas - dyn cyffredin sy’n breuddwydio am fod yn nofelydd enwog ond sy’n gorfod bodloni ar weithio fel ymchwilydd teledu.
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


