Rhestr Awduron Cymru

MORRIS, DEWI PWS

Cerddor, bardd a digrifwr yw Dewi 'Pws' Morris. Mae'n adnabyddus am ei ffwlbri ac am dynnu coes! Ef oedd Bardd Plant Cymru 2010-2011. Ganed yn Nhreboeth, Abertawe, ac erbyn heddiw mae'n trigo yn Nhresaith gyda'i wraig Rhiannon.

Cychwynnodd Dewi ei yrfa fel athro yn Splot, Caerdydd, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, datblygodd ei ddiddordeb ym myd actio yn swydd llawn amser gyda Chwmni Theatr Cymru. Bu'n actor ar y gyfres deledu Rownd a Rownd o ddechrau'r gyfres yn 1995 hyd at 2007 ac mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni eraill ar S4C megis Pobol y Cwm, Miri Mawr, Torri Gwynt a Hapus Dyrfa. Enillodd wobr y cyflwynwr rhanbarthol orau am ei raglen Byd Pws ar S4C yng nghwobrau'r Royal Television Society yn 2003.

Fel cerddor, daeth i sylw fel aelod un o fandiau pop mwyaf blaenllaw Cymru'n y saithdegau, Y Tebot Piws. Aeth ymlaen i ymuno Edward H.Dafis (1973-1980), ac ymdrechodd y band i symyd cerddoriaeth Gymraeg i ffwrdd o'r synnau traddodiadol, gwerinol a fu tuag at rhywbeth mwy amrwd a chynhyrfus. Nhw sy'n gyfrifol am ysgrifennu rhai o ganeuon pop mwyaf adnabyddus Cymru, megis Breuddwyd Roc a Rôl, S'mo fi ishe mynd ac Ysbryd y Nos. Erbyn heddiw, mae Dewi yn perfformio efo band o'i ardal leol yng Ngheredigion, Sesh Bach.

Fel awdur a bardd ac mae Dewi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau. Yn eu mysg mae ei hunangofiant Theleri Thŵp, Hiwmor Pws ynghyd â llyfrau plant megis Dewi, Dwpsi a’r Dreigie. Rhestrir y rhain isod.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Teithiau Dewi Pws: Fo a Fi Gyda'i Help Hi (Y Lolfa, 2004)
Cyfres y Cewri: Theleri Thwp (Y Lolfa, 2005)
Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pws (Y Lolfa, 2007)
Dewi, Dwpsi a'r Aur (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Wps! (Gomer, 2011)
Llyfr Jôcs y LOLfa (Y Lolfa, 2011)


Adolygiadau:

"Os ydy hi’n wir mai hiwmor ydy’r ffisig gora’, buddsoddwch mewn copi o Hiwmor Pws. Dio’m bwys os dach chi’n iach rŵan – falla byddwch chi’n teimlo’n giami rywbryd. A phan fyddwch chi, gewch chi arbed trip i’r fferyllfa, achos mi fydd gynnoch chi feddyginiaeth wrth law eisoes. Yr unig beryg ydy y gwnewch chi chwerthin eich hun ’nôl yn sâl…" - Arwel Roberts, Gwales.com, yn trafod Hiwmor Pws

 
Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pws (Y Lolfa, 2007)
Yma cewch flas ar y cerddi doniol o'r talwrn, jocs ty bach a sawl stori wir o bedwar ban byd - yn cynnwys llythyr ffug yn bygwth aelodau'r Cynulliad a'i ymgais i droi ty Lyn Ebenezer yn westy!

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.







 

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z