Rhestr Awduron Cymru

GWYNFRYN, HYWEL

Ebost: hywel@bbc.co.uk

altUn o ddarlledwyr mwyaf llwyddiannus radio a theledu yng Nghymru am 40 mlynedd. Ganwyd yn Llangefni, Ynys Môn, a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae wedi bod yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru ers sefydliad y sianel. Cyflwynodd raglen Helo Bobol, ac mae'n cyflwyno o faes yr Eisteddfod ar Radio Cymru yn flynyddol. Erbyn hyn mae'n cyd-gyflwyno rhaglen Hywel a Nia. Yn ogystal â'i yrfa cyflwyno ar y radio, mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu, gan gynnwys Heddiw a Rhaglen Hywel Gwynfryn. Mae wedi ysgrifennu y geiriau i nifer o ganeuon pop, yn ogystal â phedwar pantomeim, a ffilm ar gyfer S4C.  

Enwyd Hugh Griffith (Gwasg Gomer)  ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyfres y Cewri: Y Dyn ‘i Hun (Gwasg Gwynedd, 2004)
Hugh Griffith (Gwasg Gomer, 2010)


Hugh Griffith (Gwasg Gomer, 2010)
Cofiant i'r actor a llwyfan byd-enwog Hugh Griffith, o Farian-glas, Ynys Môn. Gan ddefnyddio llythyrau, adolygiadau, dyddiaduron a lluniau unigryw o archif personol y teulu fe’n tywysir yng ngeiriau a llais yr actor ei hun o Angorfa, Marian-glas i lwyfannau Stratford, y West End ac i setiau ffilm Hollywood. Ac at Oscar.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z