Rhestr Awduron Cymru
DAVIES, ELIN HAF
Ebost: E.Davies@ich.ucl.ac.uk
Gwefan: ww.nurseelin.co.uk
Magwyd Elin ym mhentref bach y Parc, ger y Bala, lle bu amaethyddiaeth a chrefydd yn ddylanwadol iawn ar ei bywyd. Er gwaetha'r fagwriaeth hapus yr oedd yr apêl am drafeilio'r byd yn galw a gadawais Gymru fach yn 18 oed i weithio yn Lesotho, De Affrica. Yn dilyn breuddwyd oes aeth ymlaen wedyn i astudio cwrs nyrsio plant yn ysbyty plant Great Ormond St, Llundain. Ar wahan i'w galwedigaeth yn nyrsio bu chwaraeon yn elfen fawr o'i bywyd. Chwaraeodd rygbi dros Gymru A 13 o weithiau cyn mynd ymlaen i redeg chwech marathon, gan gynnwys ymgais yn anialwch y Sahara.
Yn 2007 rhwyfodd Elin ar draws Cefnfor yr Iwerydd, gan fod y ferch Gymraeg gyntaf erioed i wneud hynny. Yn 2009 rhwyfodd Elin ar draws cefnfor India - gan osod record y byd fel y criw cyntaf o ferched erioed i wneud hynny. Anrhydeddwyd hi â gwobr oddi wrth y Cynulliad am ei gwasanaeth i Gymru - am fod ei hymdrechion dros y blynyddoedd wedi casglu ymron at £250, 000 at elusennau teilwng. Ar hyn o bryd mae Elin newydd gwblhau ei doethuriaeth ac yn gweithio i Asiant Meddigyniaethau Ewrop, yn asesu cyffuriau newydd i blant.
Enwyd Ar Fôr Tymhestlog ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011.
Cyhoeddiad:
Ar Fôr Tymhestlog (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Ar Fôr Tymhestlog (Gwasg Carreg Gwalch, 2010)
Beth ysbrydolodd ferch ffarm o ardal y Bala, heb ddim profiad o fod allan ar y môr, i rwyfo ar draws dau gefnfor? Dilyn breuddwyd wnaeth Elin Haf, breuddwyd oedd yn bygwth troi'n hunllef. Hanes merch yn wynebu moroedd tymhestlog a geir yma, ac mae ei bywyd personol yr un mor stormus
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.


