Rhestr Awduron Cymru

DAVIES, EMYR

Llysmwyn, Llangadfan, Trallwng, Powys, SY21 0PY

Ganwyd yn y Foel, Garthbeidio, pentref yng ngogledd Sir Maldwyn. Bu'n byw yn llanfair Caereinion am bum deg mlynedd cyn symud yn ôl i'w ardal enedigol yn Nyffryn Banw ugain mlynedd yn ôl. Wedi gadael Ysgol y Sir yn Llanfair bu'n gweithio fel pobydd am ugain mlynedd yn cynnwys dwy flynedd fel cogydd yn y fyddin Brydeinig. Wedi hyn cafodd swydd gyda chwmni yswiriant Pearl Assurance am ddau-ddeg-wyth mlynedd fel rheolwr ardal yn Sir Drefaldwyn a Sir Amwythig.

Cafodd ei anrhydeddu gyda Gwisg Wen, Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, wedi cyfnod fel Derwydd Gweinyddol Gorsedd Eisteddfod Powys 1997-2000. Bu'n drysprydd a threfnydd busnes Siop Pethe Powys, siop Gymraeg y Gororau am ddau-ddeg-pum mlynedd ac yn drefnydd busnes y papur bro lleol, Plu'r Gweunydd (1978-1990).

Bu'n Gadeirydd Cylch Llenyddol Gregynog ac yn Drysorydd ers nifer o flynyddoedd bellach, yn ogystal a chynnig darlithoedd/sgyrsiau ar bynciau megis hanes lleol a hanes rhai o enwogion Cymru.

Cyhoeddiad
Bro: Bara Caws - Bardd Gwlad (Plu'r Gweunydd ac Emyr Davies, 2010)

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z