Rhestr Awduron Cymru

HUGHES GRIFFITHS, PETER

20, Waundew, Caerfyrddin SA31 1HE
Ffôn: (01267) 232240
Ebost: Phughes-griffiths@sirgar.gov.uk

altBrodor o Drefach-Felindre, Llandysul ond yn byw yn awr yng Nghaerfyrddin. Ysgol Ramadeg Llandysul, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg y Brifysgol, Aberystwyth. Cyn athro ac Athro Bro gyda’r Gymraeg. Bu ar staff Coleg y Drindod am 23 mlynedd cyn ymddeol yn 2005. Awdur nifer o lyfrau i blant a llyfrau addysgol a ‘Chynllun Clyweled Dysgu Cymraeg fel ail iaith - ‘Instant Welsh’. Golygydd ‘Cwlwm’ – Papur Bro ardal Caerfyrddin a chyfrannwr misol am 12 mlynedd i dudalen Gymraeg y cylchgrawn ‘Carmarthenshire Life’.
Enillydd cyson yn Adran Llen a Drama’r Eisteddfod Genedlaethol. Dramodydd ac awdur comediau sy’n cael ei hactio’n gyson gan gwmniau ar hyd a lled Cymru. Cyn enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Mon a’r Fedal Ryddiaeth ddwy waith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan.

Awdur sgriptiau ar gyfer cyflwyniadau amrywiol ar lwyfan, teledu a radio. Mae Peter yn ddarlledwr cyson, ac yn parhau i fod yn ffigwr amlwg ar y llwyfan gwleidyddol fel arweinydd grwp y Blaid ar Gyngor Sir Caerfyrddin, ac yntau wedi bod yn ymgyrchydd diflino ers ei ddyddiau ysgol yn y 50’au, a chydweithiodd yn agos a Gwynfor Evans yn ystod ymgyrch Gwynfor i ymprydio dros sefydlu sianel deledu Gymraeg. Bu hefyd yn bel-droediwr, yn actor, yn adroddwr digri ac yn ddramodydd heb son am ei swydd gyntaf dra phwysig fel aroglwr llaeth!


Detholiad o Gyhoeddiadau:
Hiwmor Sir Gar (Y Lolfa, 2008)
‘Bro a Bywyd, Gwynfor Evans’ (gol. Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
O Lwyfan i Lwyfan (Y Lolfa, 2010) 


Adolygiadau:

“Mae’n werth darllen y gyfrol hon i sylweddoli maint y frwydr a beth ellir ei wneud. Cyfrol sy’n ysbrydoli.” Gwyn Griffiths, BBC Cymru 3/11/2010 (yn trafod O Lwyfan i Lwyfan)

“Yn frith o straeon difyr, mae dawn dweud Peter yn amlwg trwy’r gyfrol gyda’i hiwmor a’i hwyl arbennig yn goron ar y cyfan.” Lyn Ebenezer, Gwales.com 



O Lwyfan i Lwyfan  (Y Lolfa, 2010)
Yn y gyfrol hon cawn ein harwain ‘O Lwyfan i Lwyfan’ wrth roi cip ar fwrlwm a phrysurdeb bywyd y cymeriad ffraethh hwn ac yntau bellach wedi cyrraedd oed yr addewid. Cewch ymuno ag ef wrth iddo fwrw cipolwg difyr yn ol ar lwyfannau’i fywyd. O’r eisteddfod i’r crefyddol ac o’r teuluol i lwyfan bro Sir Gar, sy’n agos at ei galon.
 
Cliciwch ar y clawr i brynu copi.



Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z