Rhestr Awduron Cymru
JAMES, ELERI HEDD
Merch o Gaerdydd yw Dr Eleri Hedd James. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth cyn symud ymlaen i Brifysgol Caerdydd lle’r enillodd ddoethuriaeth am astudiaeth o feirniadaeth lenyddol Bobi Jones. Mae hi’n gweithio bellach yn Uned Safoni Termau a Chyfieithu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Casglu Darnau'r Jig-so - Theori Beirniadaeth Lenyddol R.M. (Bobi) Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 2010)


