Rhestr Awduron Cymru
LLEWELYN, HAF
Cafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, ond erbyn hyn mae hi’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala. Mae hi’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, ac wedi gweithio fel athrawes gynradd, yn ogystal â gweithio ar brosiectau Sgwad Sgwennu. Bu’n cymeryd rhan mewn nifer o dalyrnau a stompiau dros y blynyddoedd (fel aelod o dîm Tawrn Penllyn) a cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth – Llwybrau, yn 2009. Mae ei nofel gyntaf i oedolion, Y Graig, wedi'i chyhoeddi yn ddiweddar gan Y Lolfa.
Cafodd ei chyfrol Llwybrau (Cyhoeddiadau Barddas, 2009) ei enwi ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Abi-Clec (Carreg Gwalch, 2002)
Stwffia dy Ffon Hoci (Gwasg Gwynedd, 2006)
Llwybrau (Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
Y Graig (Y Lolfa, 2010)
Llond Drôr o Ddeinosoriaid (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)
Cyhoeddiadau Eraill:
Syniad Da Iawn, Cyfrol 1, 2 (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2001, 2002)
Stori Cyn Cysgu, Cyfrol 1 a 2 (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2005, 2006)
Yn Nes at Baradwys (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Cerddi Meirionnydd (cyfrannwr) (Gwasg Gomer)
Adolygiadau:
"Mi gydiodd ynof i - a gwrthod gollwng." - Bethan Gwanas yn trafod Y Graig
"Nerth Y Graig yw ei hysgrifennu celfydd, ei chymeriadau byw, ei delweddau disglair a'i gallu gwirioneddol i ddisgrifio teulu cyffredin ar ei orau ac ar ei waethaf." - Megan Jones (BBC, Cylchgrawn Cymru), yn trafod Y Graig
Y Graig (Y Lolfa, 2010)
Ym Meirionnydd y lleolwyd fferm fynyddig Y Graig. Mae'n fferm nodweddiadol Gymreig sy'n wynebu argyfwng dilyniant wrth i'r genhedlaeth iau dilyn eu cwys eu hunain. Ond mae yna hefyd lu o gyfrinachau personol gan sawl aelod o'r teulu, ac yn raddol cant eu datgelu,
Llwybrau (Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
Dyma gyfrol cyntaf y bardd o Ardudwy. Casgliad o gerddi ar destunau amrywiol a geir yn y gyfrol gyda llawer ohonynt yn rhai personol sydd wedi’u dylanwadu gan hanes a daearyddiaeth y gymdeithas amaethyddol lle’i magwyd.


