Rhestr Awduron Cymru

EVANS, MEREDYDD

Meredydd EvansGanwyd Dr Meredydd Evans yn 1919 a magwyd ef yn Nhanygrisiau. Ar ôl gadael ysgol yn 14 oed aeth i weithio fel siopwr, cyn parhau â'i addysg yng Ngholeg Clwyd, Y Rhyl a Choleg Prifysgol Bangor. Cafodd swydd wedyn yng Ngholeg Harlech, yna bu'n gweithio fel newyddiadurwr ar Y Cymro, yn darlithio ym Mhrifysgol Princeton, U.D.A. ac yna yn yr Adran Efrydiau Allanol ym Mangor. Bu'n Bennaeth Adloniant Ysgafn gyda'r B.B.C. cyn dychwelyd i Addysg Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymddeolodd Merêd a Phyllis dros ugain mlynedd yn ôl ac ymgartrefu yng Nghwmystwyth. Bu'r ddau yn flaenllaw ym myd adloniant Cymru ers hanner canrif. Trwy eu hymroddiad a'u brwdfrydedd, maent wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'r traddodiad canu gwerin, yr iaith Gymraeg ac i holl ddiwylliant Cymru. Mae Meredydd yn Gymrawd yr Academi.

Hela'r Hen Ganeuon (Y Lolfa, 2008)
Mae'r gyfrol hon yn trafod hanes casglu caneuon gwerin Cymru o gyfnod Iola Morganwg, yna Ifor Ceri a Maria Jane Williams, hyd at gyfraniad unigryw John Lloyd Williams i'r mudiad canu gwerin ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'r awdur yn dadansoddi rhai gweddau cerddorol ar ein caneon gwerin, ac yn gosod eu cefndir a'u cyd-destun cymdeithasol.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi.

Chwilio (12)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z